Martyn Croydon yw Dysgwr y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Cyhoeddwyd mai Martyn Croydon yw enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn eleni.
Gwnaed y cyhoeddiad yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Dinbych a'r Cyffuniau.
O Kiddeminster y daw Martyn yn wreiddiol, ond mae nawr yn byw ym mhentref Llannor ym Mhen Llŷn.
Dywedodd ei fod wedi gwirioni gyda Phen Llŷn ers cyn cof, a phan ddaeth y cyfle fe symudodd draw i Gymru i fyw, i redeg ei fusnes creu gwefannau ac i astudio gyda'r Brifysgol Agored.
Dechreuodd Martyn ddysgu Cymraeg gan ddefnyddio llyfrau a thros y we, ond ar ôl symud, dechreuodd fynychu gwersi Cymraeg ym Mhwllheli.
Erbyn hyn mae Martyn wedi pasio'i arholiad Lefel A Cymraeg ac yn gweithio fel tiwtor Cymraeg ers Medi 2012.
Mae o yn yn weithgar iawn yn ei gymuned leol, ac mae hyn yn rhoi cyfle iddo ddefnyddio'i Gymraeg bob dydd, ac mae'n gwirfoddoli gyda'i bapur bro lleol, Llanw Llŷn.
Mae Martyn yn parhau i redeg ei gwmni gwefan o'i gartref.
Meddai Jon Leslie Thomas ar ran y beirniaid: "Roedd safon y cystadleuwyr eleni'n hynod o uchel, nid yn unig ymysg y rheini a gyrhaeddodd y rownd derfynol ond hefyd ymysg y rheini a fu'n cystadlu yn gynharach eleni.
"Mae'n rhaid llongyfarch pawb a fu'n rhan o'r gystadleuaeth eleni.
"Mae cael cyfle i feirniadu'r gystadleuaeth wedi bod yn anrhydedd fawr."
Ychwanegodd Janet Barlow, Prif Weithredwr y noddwyr, Agored Cymru: " Mae'r ymroddiad a safon yn eithriadol o uchel, ac mae Agored Cymru'n falch i fod yn noddi digwyddiad a gweithgaredd mor boblogaidd am yr ail flwyddyn yn olynol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2013