'Mwy o sylw i ddysgwyr y gogledd', medd Dysgwr y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae Dysgwr y Flwyddyn yn dweud nad yw'n teimlo bod digon yn cael ei wneud i hyrwyddo dysgwyr yng ngogledd orllewin Cymru, ac y dylid defnyddio'r cyfryngau Saesneg i ddenu mwy o bobl i ddysgu'r iaith.
Roedd Martyn Croydon yn siarad ychydig oriau wedi iddo ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013.
Wedi'i eni yn Kiddeminster yn Lloegr, mae bellach yn byw ym mhentre' Llannor ym Mhen Llŷn.
Dechreuodd ddysgu Cymraeg gan ddefnyddio llyfrau a thros y we, ond ar ôl symud dechreuodd fynd i gwersi Cymraeg ym Mhwllheli.
Erbyn hyn mae wedi pasio'i arholiad Safon Uwch Cymraeg ac yn gweithio fel tiwtor Cymraeg ers Medi 2012.
'Lot o sylw i'r de'
Yn ôl Martyn, mae'n credu bod dysgwyr yn ne Cymru'n tueddu i gael mwy o gefnogaeth na rhai yn y gogledd.
"Mae 'na lot o bethau'n digwydd, a lot yn dysgu Cymraeg ym Mhen Llŷn, ond weithiau dwi'n teimlo - hefo pethau cenedlaethol - bod 'na lot o sylw i'r de.
"Wrth gwrs, mae 'na lot o bobl yn dysgu Cymraeg y tu allan i Gymru hefyd.
"Dwi'n meddwl efallai bod pobl yn meddwl bod ni'n iawn yn y gogledd am bod cymaint o bobl yn siarad Cymraeg yno.
"Ond dydy'r Cymry Cymraeg ddim pob tro'n siarad Cymraeg hefo dysgwyr - mae'n bwysig iddyn nhw ddefnyddio'r iaith hefo dysgwyr pob tro.
"Efallai hefyd y gallai rhaglenni teledu wneud mwy i gynnwys dysgwyr Cymraeg o'r gogledd.
Cyfryngau Saesneg
Roedd Martyn hefyd yn teimlo y dylid gwneud mwy yn y Saesneg o ran denu pobl newydd i ddysgu Cymraeg.
"Dwi'n gobeithio gweld mwy o bethau trwy gyfrwng y Saesneg am ddysgu Cymraeg," meddai.
"Os faswn i'n siarad ar Radio Cymru, er enghraifft, dwi'n preaching to the converted. Dwi'n meddwl bod angen gwneud mwy i gyrraedd at bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg o gwbl."
Wrth sôn am ei deimladau ar ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn, dywedodd Martin: "Roedd y safon yn uchel iawn - roedd pawb yn y rownd derfynol yn haeddu ennill.
"Dwi'n methu credu 'mod i wedi ennill. Ond gobeithio bydd yn hwn i bobl ar draws Cymru, yn enwedig ardal Pen Llŷn, i ddysgu Cymraeg."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2013
- Cyhoeddwyd7 Awst 2013