Oriel: Cylch yr Orsedd Eisteddfod Genedlaethol 2013
- Cyhoeddwyd

Cofiadur yr Orsedd, Penri Tanad, yn arwain yr orymdaith at feini'r Orsedd fore Gwener.

Mam y Fro, Elen Lloyd, a rhai o ferched y ddawns flodau.

Oedd 'na nerfau cyn y seremoni tybed?

Bron â chyrraedd Cylch yr Orsedd.

"Nes i ddim deall tan ar ôl y seremoni bod 'na gymylau duon y tu cefn i mi," meddai'r Archdderwydd Christine James.

Dewi Corn a Paul Corn Cynan yn Canu'r Corn Gwlad ar ddechrau'r seremoni

Rhan o'r dorf oedd wedi casglu i wylio'r aelodau newydd yn cael eu hurddo

Yr Archdderwydd Christine yn gwylio'r Ddawns Flodau.

Cleif Harpwood, 'Cleif Llais Afan', yn cael ei dderbyn i'r Orsedd.

Cafodd John Arthur Jones ei dderbyn i'r Orsedd am ei waith gwirfoddol gyda nifer o fudiadau a chymdeithasau, gan gynnwys y Mudiad Meithrin.

Yr Archdderwydd yn cau'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013.

Malcolm Allen oedd y cynta' i gael ei urddo - 'Mab o'r Mynydd' ei enw Gorseddol.

Yn ôl Bryn Williams, y cogydd, roedd yr urddo yn brofiad "anhygoel" - 'Bryn Dyffryn Clwyd' fydd ei enw yn yr Orsedd.

"Dwi'n falch o'r anrhydedd ac yn teimlo 'mod i'n perthyn i Gymru go iawn rwan, " meddai Annette Bryn Parri ar ôl cael ei derbyn i'r Orsedd fel 'Ann o'r Bryn'.

'Cleif Llais Afan' yw enw Gorseddol Cleif Harpwood.

Cafodd Enid Griffiths o Borthaethwy, Ynys Môn, ei hanrhydeddu am ei gwasanaethau ym maes cerddoriaeth