Cwyn am brinder meddygon
- Cyhoeddwyd
Mae un o gynghorwyr tref Pwllheli wedi cwyno i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am wasanaeth meddygon teulu yn ardal de Gwynedd dros y penwythnos.
Roedd y cynghorydd Mike Parry yn honni mai dim ond un meddyg teulu oedd ar ddyletswydd y tu allan i oriau arferol ar gyfer ardal oedd yn ymestyn o Dywyn, Meirionnydd, i Aberdaron ym Mhen Llyn.
Mynnodd Mr Parry bod y sefyllfa yn gwbl annerbyniol, ac y gallai bywydau fod wedi bod mewn perygl.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi cyhoeddi datganiad sy'n cadarnhau eu bod wedi bod yn cael trafferthion yn llenwi rota ar gyfer gwaith y tu allan i oriau dros y penwythnosau.
Ond roedd y bwrdd hefyd yn mynnu bod pawb oedd wedi cysylltu â'r gwasanaeth wedi cael eu trin yn briodol.
Problem gynyddol?
Mae'r Dr Phil White yn ysgrifennydd Pwyllgor Lleol Cymdeithas Meddygon Teulu Gogledd Cymru. Ar raglen Newyddion9 nos Lun, dywedodd:
"Rwy'n gwybod bod hwn wedi bod yn broblem yr ydym wedi pwysleisio ers tipyn fel cymdeithas meddygon teulu.
"Rhaid i chi fod yn feddyg teulu wedi cymhwyso er mwyn cynnig y gwasanaeth, ac mae llawer wedi gadael y gwasanaeth.
"Ry'n ni'n gwybod bod y mwyafrif yn gweithio yn ystod y dydd pan mae'r baich yn llawer trymach, ac felly does neb ar gael i weithio gyda'r nos ac ar benwythnosau.
"Mae'r bobl sy'n trefnu'r gwasanaeth yn gwneud eu gorau glas - does dim bai arnyn nhw - ond mae prinder ac mae hwn yn mynd i fod yn fwy o broblem fwy cyffredin.
"Yr hyn yr ydym yn trio neud yw cadw'r gwaith y tu allan i oriau ar gyfer achosion brys yn unig.
"Hefyd mae llawer o feddygon teulu bellach yn fenywod, ac er mwyn denu meddygon i ardaloedd fel hyn mae angen cael gwaith i'r wraig a'i gwr .....ac mae prinder swyddi felly ar gyfer dynion mewn mannau."