Bygythiad i sioeau amaethyddol

  • Cyhoeddwyd
sioe amaethyddol

Wrth i drefnwyr sioeau sirol Môn a Phenfro baratoi i groesawu degau o filoedd o ymwelwyr yfory, mae yna bryder am ddyfodol sioeau amaethyddol lleol.

Dywedodd un o drefnwyr sioe Llambed wrth raglen Newyddion 9 na fydd modd cynnal sioe mewn ychydig o flynyddoedd os ydy'r costau trefnu yn parhau i gynyddu.

Mae rhai o'r trefnwyr nawr yn galw am gymorth gan lywodraeth y DU am ei bod yn mynd yn gynyddol anoddach cael dau ben llinyn ynghyd.

Un o drefnwyr Sioe Llanbed yw Iwan Williams, a dywedodd: "Mae'n rhaid i ni gael audit health and safety cyn y gewn ni yswiriant i'r sioe - mae hwnna'n mynd i gostio £600 o bunnau'n extra i ni.

"Mae'r sioe wedi neud colled y ddwy flynedd ddiwethaf - os aiff hi'n ddwy flynedd arall, wel sa i'n gwbod.

"Ma' gyda ni arian wrth gefn ond ry'n ni ishe cadw hwnna i'r dyfodol.

"Os fyddwn ni'n gwario hwnna, rhowch chi chwe blynedd arall a bydd dim sioe, a does neb ishe hynny."

Un peth allai fod o gymorth yw peidio gorfod tal Treth ar Werth, ac mae John Roberts, Cadeirydd Sioe Amaethyddol Nanhyfer, yn galw am hynny gan y Trysorlys.

"Un peth allai helpu yw'r VAT. Ni'n methu claimo VAT a phethau fel yna.

"Os yw hi'n costio dros £20,000 i ni drefnu sioe fel hyn, mae bron £4,000 yn mynd ar ddim byd."

Mewn datganiad i Newyddion9, dywedodd y Swyddfa Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi nad ydyn nhw'n fodlon trafod achosion unigol ond eu bod yn barod i drafod gyda'r sioeau bach er mwyn gweld os oes modd darparu cymorth ar faterion yn ymwneud â Threth Ar Werth.