Golygydd yn gadael ond papur yn parhau
- Cyhoeddwyd
Mae cyhoeddwr papur newydd yng ngorllewin Cymru wedi dweud y bydd y papur yn goresgyn a hynny er bod y golygydd wedi ymddiswyddo chwe wythnos ers dechrau argraffu.
Fe ymddiswyddodd Bruce Sinclair o'r Pembrokeshire Herald wedi anghydfod ynghylch cynnwys colofn.
Roedd darn barn yr wythnos diwethaf, Badger Knows Best, yn beirniadu un o brif gystadleuwyr y papur sef The Western Telegraph.
Dywed y cyhoeddwr, Tom Sinclair ei bod yn chwilio am olygydd newydd a bod dim amheuaeth y bydd y papur newydd yn parhau:
"Roedd gen i nod clir pan benderfynais i ddechrau papur newydd sef y byddai'r Pembrokeshire Herald yn bapur ymgyrchu, papur gyda llais nodedig a phapur sydd ddim yn ofni dweud y gwir ac i ddweud y newyddion dim ots beth, "meddai Mr Sinclair sydd ddim yn perthyn mewn unrhyw ffordd i gyn olygydd y papur.
Goresgyn
"Er bod Bruce Sinclair yn newyddiadurwr da iawn yn anffodus nid ef oedd y person cywir i fynd a'r Pembrokeshire Herald i'r cyfeiriad yr ydyn ni'r sylfaenwyr eisiau."
Ychwanegodd: "Dw i ddim yn credu bod yna unrhyw amheuaeth y bydd y papur yn goresgyn. Dw i'n credu yn siŵr y bydd. Dw i'n credu y bydd yn bapur mwy llwyddiannus os yw yn bapur fydd yn rhoi'r newyddion go iawn ac yn adrodd am straeon go iawn.
"Y pwynt yw, rydyn ni wastad wedi dweud ein bod ni eisiau bod yn bapur newydd a dim papur sydd yn gwneud i bobl syrthio i gysgu.
"Popeth yn iawn cael straeon bach ynghylch codi arian ar gyfer badau achub a digwyddiadau elusennol- mae hynny i gyd yn bwysig, wrth gwrs- ond mae'n rhaid i ni gael newyddiaduraeth ymchwiliadol. Mae'n rhaid i ni allu dweud beth sydd yn digwydd yn Sir Benfro."
Dim yr un cyfeiriad
Mewn datganiad mi ddywedodd Bruce Sinclair ei fod wedi mwynhau bod gyda'r papur ers iddo gychwyn ond yn dilyn y penderfyniad i gynnwys colofn a hynny er ei fod yn gwrthwynebu ei fod wedi penderfynu gadael.
"Er fy mod i yn bendant wedi mwynhau'r sialens o greu papur newydd sbon o ddim byd, mae prinder adnoddau golygyddol wedi gwneud fy rôl i yn anodd, "meddai.
"Rydyn ni wedi llwyddo i gynhyrchu chwe argraffiad o'r papur gyda thîm golygyddol sydd wedi cynnwys fi, gohebydd chwaraeon a ffotograffydd a hefyd ychydig o fewnbwn gan y cyhoeddwr."
"Mi ddaeth y mater i'w derfyn yn dilyn y ffordd yr ymosodwyd yn fy marn i yn bersonol a hynny yn ddiangen ar aelod o'r Western Telegraph yn y darn barn Herald's Badger Knows Best.
"Er i mi wrthod y stori wreiddiol ac er i mi brotestio sawl gwaith ynghylch naws y darn cafodd y darn ei anfon i'w gyhoeddi heb ei newid.
"O ganlyniad dw i wedi dod i sylweddoli ym mha gyfeiriad y mae The Herald yn mynd a dyw fy rôl i fel y golygydd ddim yn gydnaws."
Brawddeg rywiol
Mae The Herald yn barod wedi cael sylw wedi i rhai o'r hysbysebion yn rhifyn Gorffennaf 19 gael eu haddasu. Roedd y papur yn barod i fynd i'r wasg.
Cafodd brawddeg rywiol ei ychwanegu i un hysbyseb llogi car a chafodd lluniau o'r hysbyseb hwnnw eu cyhoeddi ar wefannau cymdeithasol a phapurau newydd eraill.
Problem diogelwch (security breach) oedd wrth wraidd y camgymeriad meddai Tom Sinclair:
"Ar ôl i'r papur gael ei wirio a pan oedd yn barod i fynd i'r cyhoeddwyr mi lwyddodd rhywun i gael mynediad i'r system gyfrifiadurol a gwneud newidiadau i nifer o'r hysbysebion yn y papur."
Dywedodd ei fod yn awyddus bod y papur yn gwneud enw da iddo'i hun am ei newyddiaduraeth yn hytrach na unrhyw beth arall:
"Mae pobl yn dweud bod rhywbeth dadleuol yn creu arian. Dw i ddim yn gwybod os yw hynny yn wir. Ond yr hyn dw i eisiau gweld yn digwydd yn yr Herald ydy ein bod ni yn cael ein cydnabod am y cyfraniad positif rydyn ni yn gwneud i newyddiaduraeth yng Nghymru.
"Rydyn ni eisiau ffeindio straeon a sgŵps a rhai dim ond i ni a chael ein gweld fel papur o ddifri ac fel un sydd yn chwarae rhan allweddol a phwysig yn y gymuned."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2013