£5m i adnewyddu Ysbyty Tywyn

  • Cyhoeddwyd
Nyrs (cyffredinol)Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Gweinidog Iechyd y bydd y cleifion yn elwa o'r buddsoddiad

Bydd Ysbyty Tywyn yn cael ei adnewyddu wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd £5 miliwn o bunnoedd yn cael ei wario ar y safle.

Dywed y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford y bydd y newidiadau yn dod â "budd gwell i'r gymuned".

Fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i wella'r adeiladau sydd yn bodoli yn barod ac i greu estyniad newydd gyda 16 o wlâu yno.

Mae'r Llywodraeth yn dweud y bydd y ward hon yn gwella'r profiad i'r cleifion o ran bod y lle yn fwy cyfforddus ac o ran preifatrwydd.

Bydd yr ysbyty hefyd yn gwella'r ddarpariaeth i'r henoed gyda gofal lliniarol, asesiadau ac adferiad yn cael ei gynnig i bobl.

Fe fydd y ward sydd yn bodoli yno yn barod yn cael ei newid fel bod clinigau cymunedol a gwasanaethau eraill yn medru cael eu cynnal yno, a'r bwriad hefyd yw medru cymryd cleifion o ysbytai eraill fel bod llai o aros am y gofal sydd angen.

Agosach at adref

Er bod llai o arian yn y coffrau'r dyddiau yma, meddai Mark Drakeford, mae'n bwysig buddsoddi yn y byd iechyd: "Mae ein buddsoddiad i wasanaethau ysbytai yn parhau ac mi fydd y £5m o fuddsoddiad yn ysbyty Tywyn yn dod a budd gwell i'r gymuned.

"Mae cynnydd yn nifer y gwlâu a'r ffaith bod sawl gwasanaeth yn uno yma yn golygu bydd modd i fwy o bobl gael y gofal maen nhw angen yn agosach at adref mewn awyrgylch addas.

"Mae hyn yn cyd-fynd gyda meddylfryd Llywodraeth Cymru i foderneiddio'r gwasanaeth iechyd a darparu mwy o ystod o wasanaethau iechyd yn lleol."

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi croesawu'r newyddion gan ddweud fod gan yr ysbyty rôl bwysig wrth ddarparu gwasanaethau iechyd i bobl sydd yn byw yn yr ardal.

Ail ystyried

Dywed y Cynghorydd Eryl Jones-Williams, sydd yn cynrychioli Cyngor Gwynedd ar y cyngor iechyd cymuned lleol ei fod yn gobeithio y bydd yr arian yn gwneud i'r bwrdd iechyd ail ystyried rhai cynlluniau:

"Dw i'n gobeithio bydd y buddsoddiad yn golygu y gwnaiff Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ail ystyried cynlluniau iechyd i leihau oriau agor yr uned ddamweiniau brys a'i chynlluniau i leihau adnoddau pelydr-X yn ardal Tywyn.

"Dw i wastad wedi credu y dylen ni wneud mwy o ddefnydd o ysbytai cymunedol ac mae'r buddsoddiad yna yn gam i'r cyfeiriad iawn gan y Gweinidog Iechyd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol