Mwy yn mabwysiadu, ond cyfradd llai o'r rheiny yn blant hŷn
- Cyhoeddwyd
Mae ffigyrau diweddar yn dangos cynnydd o 12% yn nifer y plant sydd yn cael eu mabwysiadu yng Nghymru yn 2012 o'i gymharu â 2011.
Cafodd enwau 371 o blant eu rhoi ar y rhestr o blant a fabwysiadwyd y llynedd.
Mae cynnydd graddol wedi bod yn y nifer o blant rhwng 1-4 oed sydd yn cael eu mabwysiadu ers 1998, ond mae cyfradd llai o blant a phobl ifanc yn cael eu mabwysiadu yn Nghymru a Lloegr wrth iddynt fynd yn hŷn.
Dangosodd ffigyrau Swyddfa Ystadegau Gwladol mai dim ond 8.4% o'r plant gafodd eu mabwysiadu yng Nghymru a Lloegr yn 2012 oedd rhwng 10-14 - 21% oedd y ganraf gyfatebol yn 1998.
Gwell system
Mae'r Swyddfa Ystadegau yn credu mai un rheswm bod yna gynnydd wedi bod yn y nifer o bobl sydd yn dewis y llwybr yma yw'r ymgyrch ddiweddar i wella'r system fabwysiadu.
Yn ddiweddar mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi newidiadau fel bod pobl sydd yn y gorffennol wedi eu cymeradwyo ddim yn gorfod disgwyl mor hir nes medru mabwysiadu.
Hefyd mae yna ddyletswydd cyfreithiol erbyn hyn i asiantaethau i gyfeirio rheini addas i'r gofrestr mabwysiadu o fewn tri mis.
Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru yn y broses, dolen allanol o sefydlu gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol.
Dywedodd Hannah Dobbin, rheolwr polisi Action for Children bod y ffigyrau yn galanogol ond bod angen gwneud mwy i wneud yn siwr bod plant a phobl ifanc yn mynd i gartrefi sydd yn cwrdd â'i anghenion nhw:
"Mae angen i ni nawr adeiladu ar hyn a chofio bod angen ffeindio'r lle gorau ar gyfer bob un plentyn. Mae hyn yn enwedig yn wir ar gyfer plant lle mae'n anoddach darparu cartref ar eu cyfer nhw, megis plant hŷn neu frodyr a chwiorydd."
Dywed bod Llywodraeth Prydain wedi ymrwymo i roi £16 miliwn ychwanegol i helpu'r 4,000 o blant mewn gofal sydd yn dal i ddisgwyl i gael eu mabwysiadu a bod angen ystyried teuluoedd sydd yn gweddu i anghenion y plentyn hwnnw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2012