Clod i'r Cymry yng Nghaeredin

  • Cyhoeddwyd
The Bloody BalladFfynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynhyrchiad Theatr Iolo - The Bloody Ballad - wedi cael clod yn y wasg yng Nghaeredin

Mae Caeredin ym mis Awst yn llawn dop - am dair wythnos mae bron 3,000 o berfformiadau wedi bod yn theatrau, tafarnau ac ar strydoedd y brifddinas wrth i'r Ŵyl Ymylol ddiddanu'r torfeydd.

Tra bod bachu lle ar lwyfan y Ffrinj yn hwb sylweddol i yrfaoedd newydd, mae cwmnïau mwy sefydliedig yn defnyddio'r cyfle i ddenu cynulleidfaoedd newydd a sylw'r hyrwyddwyr o bedwar ban byd.

Plesiwyd beirniaid y papurau a'r cylchgronau gan rai o Gymru.

Mae cynhyrchiad National Theatre Wales, The Radicalisation of Bradley Manning, wedi derbyn adolygiad pum seren yn The Scotsman tra bod The Big Issue wedi rhoi'r un clod i gynhyrchiad Theatr Iolo, The Bloody Ballad.

'Platfform rhyngwladol'

Mae Caeredin yn lle pwysig i ddangos dramâu, yn ôl Pennaeth National Theatre Wales, John McGrath.

"Yn sicr, mae'n blatfform rhyngwladol ac mae'n rhywle lle rydych chi wirioneddol yn teimlo bod pobl yn trafod pethau sy'n ddiddorol ac yn gynhyrfus.

"Un o'r sylwadau mwyaf cyffredin eleni yw bod yna nifer fawr o berfformiadau sy'n delio â gwleidyddiaeth ryngwladol.

"Rwy'n meddwl ei bod hi hefyd yn bwysig bod Cymru yn cymryd rhan yn y sgwrs ryngwladol, ac rydym yn adrodd stori (Bradley Manning) o bersbectif pobl ifanc yng Nghymru," meddai.

Rhan bwysig o'r ymgyrch i ddenu sylw yw'r adolygiadau, gyda dewis o gannoedd o gynyrchiadau i ymwelwyr yr ŵyl.

Mae Helen Griffin yn mwynhau perfformio'i sioe un-fenyw, Who's Afraid of Rachel Roberts? ond yn dweud ei bod hi weithiau'n anodd creu argraff yng Nghaeredin.

"Mae'n rhaid i mi ddweud ei bod hi'n gystadleuol iawn yma. Mae 2,600 o berfformiadau sy'n cyfateb i nifer fawr iawn o bersonoliaethau yn rhuthro trwy'r ddinas!

"Felly dydy hi ddim wedi bod mor hawdd ag yr o'n i'n gobeithio, a dydw i ddim yn siŵr faint sydd wedi sylwi arnon ni.

"Ond mae'r cynulleidfaoedd yn wirioneddol mwynhau, felly mae hynny'n beth da," meddai.

'Cyfleoedd newydd'

Eleni mae'r Cyngor Prydeinig ac adran newydd o'r Cyngor Celfyddydau, Cymru yng Nghaeredin, wedi cynnal digwyddiadau i ddenu sylw at rai o'r artistiaid a'r cwmnïau o Gymru.

Ddwy flynedd yn ôl roedd cynhyrchiad Llwyth gan Theatr Genedlaethol wedi llwyddo i fynd ar daith i Taiwan ar ôl derbyn yr un fath o gyhoeddusrwydd.

Felly mae yna obeithion y bydd rhai o sioeau eleni yn gallu elwa ar y profiad hefyd.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant John Griffiths ei bod hi'n bwysig hyrwyddo talent Gymreig yn yr Ŵyl Ymylol.

"Mae Gŵyl Ymylol Caeredin yn boblogaidd dros ben ac yn ŵyl gelfyddydol sy'n uchel ei pharch.

"Felly mae'n rhoi cyfle i ni i ddod â Chymru - ein hartistiaid talentog a'n sefydliadau celfyddydol - at sylw'r byd.

"Mae'n bwysig chwilio'n frwd am farchnadoedd a chyfleoedd newydd, i ddangos beth sydd gan Gymru i gynnig."