Y dewrder sy'n hwb i eraill
- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewr rygbi o'r Bala gafodd ei barlysu ar ôl damwain gêm rygbi wedi cofnodi ei brofiadau ar ddu a gwyn.
Roedd Bryan Davies neu Yogi i fod i chwarae ei gêm olaf i'r Bala cyn rhoi'r gorau iddi pan gafodd yr anaf a cholli unrhyw deimlad o'i wddf i lawr.
Mae'n gobeithio y bydd ei lyfr - Mewn Deg Eiliad - yn helpu unrhyw un yn yr un sefyllfa.
"Rwy i fyny ac i lawr - mae 'na ddiwrnodau da ac ambell i ddiwrnod pan dwi'n isel," meddai.
Dywedodd Lefi Gruffudd o Wasg Y Lolfa mai hwn oedd un o'r hunangofiannau "mwyaf emosiynol."
Fe dreuliodd Bryan, welder gyda chwmni Ifor Willimas Trailers, fisoedd yn yr ysbyty oherwydd damwain ar Ebrill 21, 2007.
Fe aeth adre i'r Bala'r y llynedd ar ôl i'w dŷ gael ei addasu gydag arian apêl leol.
'Caled'
Llwyddodd yr apêl i godi miloedd o bunnoedd.
"Mae o wedi bod yn fwy caled nag yr oeddwn i'n ei ddisgwyl," meddai.
Ychwanegodd fod y profiad wedi newid ei agwedd.
"O'r blaen mi oeddwn i'n fwy ffwrdd â hi ond rŵan dwi'n ystyried pethau'n fwy dwys."
Mae'r llyfr yn sôn am brofiadau ei wraig, Su, a'r plant, Ilan a Teleri.
"A deud y gwir, mae'r llyfr yn dair rhan," meddai ei wraig.
Helpu
"Mae'n sôn am y ddamwain hyd at heddiw, plentyndod Yogi ac yna y plant a finnau."
Ychwanegodd fod y llyfr wedi helpu'r teulu wrth iddyn nhw ddarllen am fywydau ei gilydd.
"Mae dewrder Yogi, a'i deulu, wrth wynebu sefyllfa mor anodd wedi bod yn anhygoel," meddai Mr Gruffudd.
Cafodd Mewn Deg Eiliad ei ysgrifennu gyda chymorth yr awdur Elfyn Pritchard ac fe fydd ar gael mewn siopau yr wythnos hon.