Cyflwyno Bale i filoedd o gefnogwyr yn stadiwm Real

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bale
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gareth Bale ei gyflwyno i gefnogwyr Real Madrid am y tro cyntaf

Mae Gareth Bale wedi teithio i Stadiwm Santiago Bernabeu i arwyddo cytundeb chwe blynedd gyda Real Madrid.

Daeth cadarnhad ddydd Sul fod y Cymro 24 oed yn symud o Tottenham Hotspur am £85.3 miliwn (100m ewro).

Pasiodd ei brawf meddygol cyn arwyddo'r cytundeb ac mae 20,000 o gefnogwyr wedi ei gyfarch, rhai ohonyn nhw wedi ciwio ers 8am amser lleol.

£300,000

Mae cytundeb y Cymro, sy'n werth £300,000 yr wythnos, yn torri record y byd, yn fwy na 'r £80m a dalwyd gan Real Madrid am Cristiano Ronaldo yn 2009.

Roedd y seremoni gyflwyno ym mlwch y cyfarwyddwyr am 1pm amser lleol cyn iddo droedio ar y cae wrth wisgo crys Real Madrid am y tro cynta'.

"Mi aeth y cefnogwyr yn wyllt," meddai Owain Llŷr, Gohebydd Chwaraeon Radio Cymru.

"Mi oedden nhw'n gwisgo crysau ag enwau Bale arnyn nhw, yn gwisgo sgarffiau Bale ac yn cario baneri.

"Bydd yn ddiddorol gweld sut y bydd yn ymdopi ... bydd y wasg yn ei ddilyn i bob man.

"Mae'r sylw yn mynd i fod yn anhygoel."

Yn ei araith groesawu dywedodd llywydd y clwb Florentino Perez: "Mae Bale yn chwaraewr eithriadol.

"Roedd y trafodaethau'n ddwys ac yn hir ond o'r diwedd rydym ni wedi llwyddo ac wrth ein boddau yn ei groesawu."

'Safonau ucha''

Trodd at y Cymro a dweud: "Y ni yw'r clwb â'r safonau ucha yn y byd ond fe fyddwn wrth dy ochor di bob tro.

"Mae rhai o chwaraewyr gorau'r byd wedi bod ar y cae hwn ac rwyt ti yn dilyn ôl eu traed.

"Dy stadiwm di yw hon, dy grys, dy gefnogwyr.

"O heddiw ymlaen hwn yw dy gartre' a chartre' dy deulu. Croeso i'r tîm ac i Real Madrid."

Dywedodd Bale: "Dwi wedi bod yn cefnogi'r tîm hwn drwy gydol fy mywyd.

"A dweud y gwir, roedd crys 'da fi pan o'n i'n naw, 10, 11 oed ... dwi wedi gwireddu breuddwyd.

"Mae pob chwaraewr yma o'r safon ucha' ... felly, yn amlwg, mae'n anrhydedd fawr bod yma.

"Ond bydd rhaid i fi weithio'n galed er mwyn bod yn y tîm."

'Yn fy nghalon'

Nos Sul dywedodd: "Dwi ddim yn siŵr a oes yna fyth amser da i adael clwb ble ro'n i'n teimlo'n sefydlog a ble ro'n i'n chwarae pêl-droed gorau fy ngyrfa hyd yma.

"Rydw i'n gwybod bod nifer o chwaraewyr yn siarad am eu dymuniad i ymuno â chlwb breuddwydion eu llencyndod ond galla i ddweud yn onest, dyma wireddu fy mreuddwyd.

"Bydd Tottenham wastad yn fy nghalon ac rwy'n siŵr y bydd y tymor hwn yn un llwyddiannus iddyn nhw.

Disgrifiad,

arlein bale

"Rydw i nawr yn edrych ymlaen at y bennod nesaf gyffrous yn fy mywyd, chwarae pêl-droed i Real Madrid."

Serennu

Ganwyd y Cymro yng Nghaerdydd yn 1989 ac roedd yn serennu mewn nifer o chwaraeon pan oedd yn Ysgol Uwchradd Eglwys Newydd.

Roedd yn chwarae rygbi, criced, hoci a phêl-droed, ac yn cynrychioli Cymru mewn rasys traws gwlad ac athletau.

Dechreuodd ei yrfa pêl-droed pan sylwodd un o sgowtiaid Southampton, Gareth Hale, arno mewn cystadleuaeth pump-bob-ochr.

Roedd hynny'n ddechrau cyfnod o naw mlynedd gyda'r clwb.

£10m

Chwaraeodd i dimau Cymru dan-17, dan-19 a dan-21, cyn ennill ei gap cyntaf i Gymru yn 16 blwydd a 315 diwrnod o oed.

Ymunodd Bale â Spurs o Southampton yn 2007 am £10m. Sgoriodd 26 o goliau yn ystod y tymor diwethaf ac fe gafodd ei enwi yn Chwaraewr y Flwyddyn gan Gymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol a'r Ysgrifenwyr Pêl-droed.

Dywedodd ei gynrychiolwyr wrth Spurs ddiwedd Gorffennaf eu bod am drafod â Real.