'Cyflogau real yn dal i ostwng'
- Cyhoeddwyd
Gweithwyr yn Sir y Fflint sydd wedi dioddef y cwymp mwyaf yn eu hincwm yn ystod y pum mlynedd diwethaf, meddai Cyngres Undebau Llafur Cymru.
Yn ôl TUC Cymru, mae'r tâl cyfartalog llawn amser yn Sir y Fflint erbyn hyn yn £57 yr wythnos yn llai nag yr oedd yn 2007.
Mae hyn er gwaetha'r ffaith fod y sir yn gartref i amrediad eang o gyflogwyr mawr a bach.
Mae'r tâl cyfartalog llawn amser yng Nghymru wedi cwympo £32 yr wythnos mewn termau real.
Fe ddaeth y TUC i'r casgliadau hyn trwy ddadansoddi ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac ychwanegu effaith chwyddiant.
Dynion yn colli mwy
Heb fod ymhell y tu ôl i Sir y Fflint y mae Torfaen lle mae gweithwyr wedi gweld gostyngiad o 11.8% mewn termau real dros y pum mlynedd yn eu cyflog - colled o £52 yr wythnos o incwm ar gyfer pobl ar wythnos 40 awr.
Ym Mro Morgannwg, syrthiodd cyflogau 11.1% - colled o £56.15 yr wythnos, ac yn Sir Ddinbych fe wnaeth cyfraddau cyflog fesul awr gostwng o £10.35 i £9.31, gostyngiad o 10% a cholled o £41 yr wythnos.
Yn ôl y TUC, ar draws Cymru a'r DU yn gyffredinol, mae dynion wedi colli mwy o gyflog nag y mae menywod, gyda chyfraddau cyflog go iawn dynion yn y DU wedi gostwng fesul awr o £13.60 i £12.60, sef gostyngiad 7.4% sy'n £40.14 yn llai yn eu pecynnau cyflog wythnosol yn 2012 o'i gymharu â 2007.
Gwelodd gweithwyr benywaidd eu cyflogau yn gostwng o 4.7% mewn termau real dros y pum mlynedd, colled o £19.96 ar gyfer gweithiwr llawn-amser ar wythnos o 40 awr.
Yng Nghymru, bu gostyngiad cyflog fesul awr ar gyfer dynion o 6.8%, hynny o £12.31 i £11.47. I weithwyr benywaidd roedd gostyngiad o 4.8%, gan ddisgyn o £9.82 i £9.35.
'Gwasgfa enfawr'
Wrth sôn am y ffigurau, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Martin Mansfield: "Ar draws Cymru a'r DU mae teuluoedd yn dal yn ei chael yn anodd cael deupen llinyn ynghyd, ac yn aml yn gorfod mynd i ddyled, gan eu bod yn profi gwasgfa enfawr ar incwm eu haelwyd.
"Gyda chyflogau real yn dal yn gostwng, mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu gorfodi i ddefnyddio eu cardiau credyd neu eu cynilion prin os oes angen iddynt brynu unrhyw beth y tu hwnt i'r rhan fwyaf o eitemau bob dydd.
"Mae cyfraddau cyflog fesul awr go iawn weithwyr wedi dirywio dros y pum mlynedd diwethaf oherwydd bod cyflogau wedi methu cadw i fyny â chwyddiant".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2013