Cyngor Sir Benfro o blaid codi dros 700 o dai yn Hwlffordd

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Cyngor Sir Benfro
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cynghorwyr yn trafod y cynlluniau ddydd Mawrth

Mae cynghorwyr Sir Benfro wedi cymeradwyo cais cynllunio amlinellol i godi dros 700 o dai ac archfarchnad yn Hwlffordd.

Roedd swyddogion cynllunio wedi argymell y dylid cymeradwyo'r cynllun ond roedd Cyngor Tref Hwlffordd yn poeni am yr effaith negyddol ar siopau yng nghanol y dref.

Cwmni Conygar sydd tu ôl i'r cynlluniau sydd hefyd yn cynnwys gorsaf betrol.

Dywedodd Conygar y bydden nhw'n codi 729 o dai newydd, gan gynnwys canran o dai fforddiadwy.

Y nod hefyd fyddai adeiladu archfarchnad Sainsbury's 8,781 o fetrau sgwâr, gyda maes parcio ar gyfer 541 o geir a 50 o feiciau.

Roedd adroddiad adran gynllunio y cyngor sir wedi dweud y byddai'r datblygiad yn adfywio'r dref, gydag effaith economaidd a chymdeithasol bositif.

Ond mae'r adroddiad wedi nodi y gallai archfarchnad newydd - yn ogystal â rhai Tesco a Morrisons sydd eisoes yn y dref - effeithio ar siopau llai yng nghanol y dref.

Carthffosiaeth

Yn ôl swyddogion cynllunio, fe allai codi'r archfarchnad roi hwb i statws Hwlffordd fel canolfan ranbarthol.

Ond dywedodd Cyngor Tref Hwlffordd eu bod yn poeni am ddatblygiad o'r fath yn cael effaith ar y system garthffosiaeth.

Byddai angen cyffordd newydd oddi ar Ffordd Thomas Parry er mwyn sicrhau bod mynedfa i'r safle newydd sydd o fewn pellter cerdded i ganol y dref.

Mae Siambr Fasnach y dref wedi cefnogi'r cais, gan ddweud y byddai maes parcio di-dâl yn help i ddenu pobl i'r dref.

'Tai newydd'

Dywedodd y cynghorydd Annibynnol, David Edwards, y byddai'r cynllun o fudd.

"Rydw i'n meddwl ei fod yn newyddion gwych i'r dref i gael tai ychwanegol yn agos i ganol y dref oherwydd bydd hynny yn denu mwy o gwsmeriaid," meddai.

"Mae'n wych gan ein bod ni wir angen tai newydd.

"Dydw i ddim yn meddwl y bydd yn effeithio ar siopau yng nghanol y dref gan fod archfarchnadoedd yma yn barod."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol