Dathlu pen blwydd cylchgrawn Golwg yn 25

  • Cyhoeddwyd
GolwgFfynhonnell y llun, Golwg
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o gloriau cofiadwy'r cylchgrawn dros y blynyddoedd

Mae pen blwydd cylchgrawn Golwg yn 25 yn cael ei ddathlu mewn gŵyl arbennig yn Llanbedr Pont Steffan rhwng y 5ed a'r 7fed o Fedi.

Mae darlithoedd, cyngherddau, arddangosfa gelf a gweithgareddau i blant ar gampws Prifysgol y Drindod Dewi Sant er mwyn cofnodi'r chwarter canrif ers i gyfrol gyntaf y cylchgrawn ymddangos.

Lansiwyd y cylchgrawn yn Eisteddfod Genedlaethol 1988, gyda'r copïau cyntaf ar werth ar Fedi'r 8fed o'r un flwyddyn.

Erbyn hyn mae 1,250 rhifyn o Golwg wedi'u cyhoeddi, gyda'r golygydd Dylan Iorwerth wrth y llyw ers y cychwyn.

Cylchgrawn newydd

Mae Mr Iorwerth yn cofio'r her o gyhoeddi'r cylchgrawn: "Y bwriad oedd cael math newydd o gylchgrawn yn Gymraeg - un oedd yn newyddiadurol, gyda phwyslais ar luniau da, straeon da.

"Ac yna'r gwaith ofnadwy o galed o gael y rhifyn cyntaf allan, ac wedyn o wythnos i wythnos. Pan rydych chi'n gwneud rhywbeth am y tro cyntaf, wrth gwrs, mae'r gwaith cymaint â hynny yn fwy anodd, ac roedd yr oriau yn o hir."

Yn Aberystwyth mae cylchgronau Golwg wedi'u hargraffu ers 1988, gyda'r tîm golygyddol wedi'u lleoli mewn swyddfeydd ar gyrion Llambed.

Mae Dylan Iorwerth bellach yn olygydd gyfarwyddwr y cwmni, gyda chylchgronau "Wcw" i blant a "Lingo Newydd" i ddysgwyr hefyd yn cael eu cyhoeddi gan gwmni Golwg.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae'r cwmni hefyd wedi creu "ap Golwg" er mwyn darllen y cylchgrawn ar ffonau symudol a chyfrifiaduron tabled, tra bod tîm o newyddiadurwyr hefyd yn cynnal gwasanaeth newyddion ar-lein, Golwg360.com, dolen allanol.

Er i'r cwmni ehangu dros 25 mlynedd, mae Dylan Iorwerth yn dweud bod egwyddorion Golwg yr un mor gadarn ag yr oedden nhw ym 1988.

"Mae rysáit Golwg yn rhywbeth tebyg o ran egwyddor i be oedd o reit ar y dechrau, sef trio cael y straeon da, cael cylchgrawn oedd yn edrych yn dda, lot o fywiogrwydd, a thrin popeth fel newyddion a materion cyfoes."

'Dal ei dir'

Mae gwerthiant y cylchgrawn hefyd wedi "dal ei dir", yn ôl y golygydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan Iorwerth yn dweud bod gwerthiant Golwg wedi aros yn 'rhyfeddol o gyson' ers y dechrau

"Un peth sy'n rhyfeddol ydi bod Golwg wedi dal ei dir o ran gwerthiant reit ers y dechrau - mae wedi aros yn rhyfeddol o gyson. Ac wrth gwrs mae 'na genhedlaeth o bobl wedi mynd, felly yn amlwg rydyn ni wedi denu cenhedlaeth newydd hefyd i ddarllen," meddai Mr Iorwerth.

Mae Golwg yn gwerthu tua 3,000 o gopïau o'r cylchgrawn bob wythnos, gyda'r uchafswm weithiau yn mynd dros 4,000 i ambell i gyfrol boblogaidd. Mae'r cwmni yn amcangyfrif bod 3 neu 4 o bobl yn darllen pob rhifyn, ac felly yn hawlio 12,000 o ddarllenwyr.

Er i'r dechnoleg newydd ysgogi'r cwmni i ddatblygu deunydd i declynnau digidol, mae un arbenigwr ar gylchgronau yn dweud bod Golwg wedi llwyddo mewn maes cystadleuol iawn.

'Cystadleuol'

Dywedodd Iestyn George, darlithydd mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Solent yn Southampton: "Mae'n rhaid dweud bod 'na lot o gystadleuaeth, yn debyg iawn (i gymharu'r) Uwch Gynghrair a Chynghrair Cymru, ble mae cynhyrchwyr cylchgronau yng Nghymru yn gorfod cystadlu yn erbyn rhai o'r cwmnïau mwyaf blaenllaw yn y byd.

"Mae hwnna'n rhywbeth anodd iawn."

Ffynhonnell y llun, Golwg
Disgrifiad o’r llun,

Clawr cyntaf cylchgrawn Golwg yn 1988

Mae'r Cyngor Llyfrau Cymru yn cefnogi Golwg gyda grant flynyddol o £73,000. Mae Mr George yn awgrymu bod modd i Golwg dderbyn llai o arian cyhoeddus trwy godi pris y cylchgrawn yn uwch na'r £1.50 bresennol.

"Os edrychwch chi ar y sîn rhyngwladol fel petai, mae cylchgronnau 'niche' yn gwerthu'n arbennig o dda y dyddiau yma.

"Mae llawer ohonyn nhw yn ymwneud â dylunio, a llawer o gylchgronau ffotograffiaeth neu gylchgronau ffasiwn yn arbennig.

"Maen nhw'n llwyddiannus iawn er eu bod nhw ddim yn gwerthu lot o gopïau, ond maen nhw'n codi pris eithaf uchel.

"Ac i fod yn berffaith onest, does 'na ddim rheswm pam na ddylai hwn ddigwydd yng Nghymru."

Mae gwefan Golwg360.com wedi bodoli ers 2009, ac yn cynnig straeon Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol trwy gydol yr wythnos.

Dywedodd Owain Schiavone, y prif weithredwr, bod 7,000 o ymweliadau i'r wefan bob dydd, "ac mae hwnnw'n ffigwr dda iawn 'da ni'n teimlo, 'da ni'n hapus hefo hwnnw.

"Mae o'n uwch na'r hyn oeddem ni'n targedu pryd gaeth y cynllun ei lansio, ac mae o dal i gynyddu, felly mae hwnna yn rhywbeth pwysig i ni."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol