Yr ap cynta i gylchgrawn Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Ap GolwgFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd modd darllen y cylchgrawn yn llawn ar apGolwg

Mae cylchgrawn Golwg wedi cyhoeddi y byddan nhw'n mentro i fyd yr ap yn 2012.

Dros gyfnod y Nadolig mae Golwg yn cynnig y gwasanaeth newydd - apGolwg - yn rhad ac am ddim.

Yn y flwyddyn newydd, fe fydd hi'n bosib prynu fersiwn arbennig o gylchgrawn Golwg ar gyfer dyfeisiadau Apple - yr iPad, yr iPhone a'r iPod.

Wedi rhifyn cyntaf y flwyddyn o Golwg, fe fydd y cylchgrawn ar gael ar sgrin o'r funud y mae'n cael ei gyhoeddi - ym mhob man ar draws y byd.

Ymhlith rhai o'r atyniadau ar y gwasanaeth y mae

  • modd symud yn rhwydd o dudalen i dudalen ac ar draws tudalennau gan chwyddo neu leihau'r ysgrifen trwy gyffyrddiad bys

  • mae apGolwg hefyd yn rhoi cyfle i gynnwys fideos a ffeiliau sain sy'n rhan o'r cylchgrawn electronig ac fe fydd y rheiny ar gael heb unrhyw gost ychwanegol

  • ac mae dwy ffordd o brynu'r cylchgrawn - naill ai trwy danysgrifiad blwyddyn neu chwe mis, neu fesul rhifyn am ddim ond £1.49 y tro

Mae'r ap wedi cael ei ddatblygu gan gwmni Yudu, gyda chefnogaeth gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Yn ôl y cwmni fe fydd yn gam newydd pwysig ymlaen i'r wasg Gymraeg.

'Pawb yn y byd'

"Mae Golwg wedi ceisio torri tir newydd yn gyson ac, wrth i fwy a mwy o bobol droi at ddarllen ar ddyfeisiadau symudol, mae'n bwysig fod y wasg brint Gymraeg yn ennill ei lle ar y cyfryngau newydd," meddai Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, Dylan Iorwerth.

"Fersiwn electronig llawn o'r cylchgrawn print fydd hwn, ond efo'r cyfle i ychwanegu ambell elfen ychwanegol.

"Mae yna fanteision eraill hefyd - mi fydd ar gael i bawb ymhob man y funud y mae'n cael ei gyhoeddi.

"Mi fydd yn arbennig o ddefnyddiol i bobl sy'n teithio tipyn, i bobl mewn ardaloedd lle mae siopau papur newydd yn brin ac i bobl sy'n byw yng ngweddill gwledydd Prydain ac ar draws y byd."

'Cydweithio'

Mae'r prosiect wedi ei arwain gan Owain Schiavone, Prif Weithredwr chwaer wasanaeth Golwg, y gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg360.

"Er mai prosiect cylchgrawn Golwg ydy hwn, mae'r datblygiad yn rhoi cyfle i gydweithio rhagor rhwng y ddau wasanaeth," meddai.

"Mi fyddwn ni'n gallu datblygu elfennau newydd ar gyfer y ddau wasanaeth a chryfhau'r dolenni rhyngddyn nhw.

"Ar ben hynny, wrth gwrs, mae'r dechnoleg yn agor drysau ar lawer rhagor o ddatblygiadau yn y dyfodol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol