Geraint Thomas yng ngharfan Prydain
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cymro Geraint Thomas wedi cael ei enwi yng ngharfan gychwynnol Prydain ar gyfer Pencampwriaeth Rasio Ffordd y Byd.
Er bod 11 yn y garfan, bydd honno'n cael ei chwtogi i wyth seiclwr ar gyfer y ras ei hun.
Hefyd yn y tîm mae enillwyr y Tour De France am y ddwy flynedd ddiwethaf - Bradley Wiggins a Chris Froome - a'r gwibiwr Mark Cavendish.
Y disgwyl yw mai Froome fydd yn arwain yn y ras ar y ffordd gyda Wiggins ac Alex Dowsett yn cael eu henwi yn y ras yn erbyn y cloc yn yr un bencampwriaeth.
Mae'n arwydd o gryfder y garfan bod cystadleuwyr fel Peter Kennaugh a David Millar heb gael eu cynnwys.
Dyma fydd y tro cyntaf i Wiggins a Froome rasio yn yr un tîm ers y Tour of Oman ym mis Chwefror eleni.
Bydd y garfan derfynol ar gyfer y bencampwriaeth yn cael ei henwi maes o law a'r rasys yn dechrau ym mis Medi.