Cymru 0 - 3 Serbia
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi cael noson arall i anghofio wrth golli gartref o dair gôl yn erbyn Serbia yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Wedi bod yn lwcus i beidio ag ildio gôl ar ôl tri munud yn dilyn camgymeriad gan Andrew Croft, doedd dim rhaid i gefnogwyr Serbia aros yn hir i weld eu tîm yn darganfod cefn y rhwyd.
Croft eto oedd ar fai gan sefyll mewn safle oedd yn golygu nad oedd Aleksander Kolarov yn camsefyll. Fe lwyddodd y chwaraewr Machester City i ddarganfod Filip Duricic, wnaeth benio'r bel yn syth at Boaz Myhill.
Yn anffodus i Gymru ni lwyddodd Myhill i ddal y bel ac roedd hi'n 1-0 wedi dim ond naw munud wrth i Duricic sgorio ar ei ail gyfle.
Doedd ail gôl y tîm o ddwyrain Ewrop ddim mor feddal - fe darodd Kolarov chwip o ergyd o ryw 25 llath a hedfanodd i gornel uchaf y rhwyd.
Nid oedd ffordd yn ôl i Gymru, ac roedd hi'n 3-0 yn fuan wedi dechrau'r ail hanner wrth i Lazar Markovic gymryd mantais o amddiffyn Cymru, oedd yn chwerthinllyd ar adegau.
Er i Gareth Bale ddod ar y cau ar ôl 58 munud i groeso cynnes gan y dorf, doedd dim byd allai o wneud mewn gwirionedd i wyrdroi cwrs y gêm.