Torri coed llarwydd ym Mwlch Nant-yr-Arian wedi haint

  • Cyhoeddwyd
Coed llarwydd ym Mwlch Nant-yr-ArianFfynhonnell y llun, CNC
Disgrifiad o’r llun,

Mae CNC yn bwriadu symud tua 4,000 tunnell o goed o'r safle ym Mwlch Nant-yr-Arian

Bydd ardal beicio mynydd poblogaidd yng Ngheredigion ynghau am dri mis am fod angen torri coed llarwydd sydd wedi eu heintio â ffwng.

Bydd y gwaith o symud y coed o'r llyn ym Mwlch Nant-yr-Arian, ger Aberystwyth, yn dechrau fis nesa'.

Maent wedi eu heintio â'r ffwng Phytophthora ramorum.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) y byddai angen torri tua 4,000 tunnell o goed - sy'n cyfateb i thua 36 bws deulawr o bren.

Nid dyma'r tro cynta' i'r haint gael ei ddarganfod yng Nghymru.

Daeth i'r amlwg yng Nghwm Afan, Castell-nedd Port Talbot dair blynedd yn ôl ac roedd wedi heintio coed dros ardal o thua 3,000 hectar (7,400 erw) erbyn diwedd y llynedd.

Yn gynharach eleni, datgelwyd fod coed ar dir dros 1,800 hectar (4,400 erw) yn dangos arwyddion eu bod wedi'u heintio.

Atal lledaeniad

Mae CNC yn gofalu am ganolfan goedwigaeth Bwlch Nant-yr-Arian ar ran Llywodraeth Cymru.

Penderfynodd y corff dorri'r coed mewn ymgais i atal yr haint rhag lledu i ardaloedd ehangach a mathau eraill o goed.

Bydd llwybrau ceffylau ar y safle'n cael eu cau wrth i'r coed gael eu symud ond bydd y llwybrau cerdded yn parhau yn agored, er bydd rhai newidiadau.

Meddai Gareth Owen, o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym yn anelu i roi tua 13,000 o goed derw a mathau eraill yn lle'r coed llarwydd cyn y gwanwyn nesa', gan ailgreu'r goedwig hynafol a oedd i'w gweld yng Nghymru yn y gorffennol.

"Rydym hefyd yn bwriadu gofyn i blant ysgol lleol ein helpu i blannu perllan o goed ffrwythau amrywiol yn agos i'r ganolfan ymwelwyr, a bydd rhai o'r coed sy'n cael eu torri yn cael eu defnyddio i wneud cerfluniau i ehangu ar fwynhad pobl o'r goedwig."

Oherwydd rhesymau diogelwch, bydd dwy ganolfan chwarae ar y safle yn cael eu cau am bythefnos ar ddechrau mis Hydref.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol