Dod o hyd i haint mewn coed aeddfed yng Nglanyfferi

  • Cyhoeddwyd
Coed ynn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym wedi cynnal adolygiad o'r ardal dan sylw ..."

Am y tro cynta' mae'r awdurdodau wedi dod o hyd i haint mewn coed ynn aeddfed.

Staff Cyfoeth Naturiol Cymru ddaeth o hyd i'r ffwng yng Nghoed Iscoed, Glanyfferi yn Sir Gâr yr wythnos ddiwetha'.

Dywedodd Iolo ap Dafydd, Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru,: "Mae hyn yn arwyddocaol. Hwn yw'r achos cynta' yn y gwyllt yng ngorllewin Ynysoedd Prydain.

"Mi oeddwn i wedi cael ar ddeall na fyddai achos arall tan Fehefin efallai.

'Lledaenu'

"Yn amlwg, mae'r haint yn lledaenu."

Dywedodd John Browne o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym wedi cynnal adolygiad o'r ardal dan sylw ac yn cysylltu â thirfeddianwyr a rhoi gwybod pa gamau sydd eu hangen er mwyn lleihau lledu'r haint.

"Mae hyn yn unol â chynllun rheoli Chalara (y ffwng) Llywodraeth Cymru."

Fydd dim effaith ar bobl nac iechyd anifeiliaid ac ni fydd unrhyw gyfyngiadau mewn coedwigoedd.

Ond dylai ymwelwyr ymddwyn yn gyfrifol a chael gwared ar fwd oddi ar esgidiau neu deiars.

Ym Mawrth dywedodd y Comisiwn Coedwigaeth fod yr haint mewn tri safle, ymysg glasbrennau yn Sir Benfro a Cheredigion.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pren yn bwysig fel coed tân, noddfa bywyd gwyllt a bioamrywiaeth.

15,348 hectar

Y rhain oedd yr achosion cynta' yng Nghymru yn 2013.

Roedd yr achos cyntaf yng Nghymru mewn coetir yn Sir Gâr ym mis Tachwedd.

Mae yna 15,348 hectar o goed ynn yng Nghymru, sef 5% o'r 304,000 hectar o goetir ym Mhrydain.

Mae pren yr onnen yn bwysig fel coed tân, noddfa bywyd gwyllt a bioamrywiaeth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol