Haint ynn: Achos cyntaf yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Coeden onnenFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Hyd yn hyn mae 100,000 o goed yn Lloegr a'r Alban wedi eu dinistrio gan yr haint Chalara

Am y tro cynta', mae achos o'r ffwng heintus sy'n effeithio ar goed Ynn wedi ei ddarganfod yng Nghymru.

Brynhawn dydd Mercher cadarnhaodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) fod achos wedi dod i'r amlwg yn y De Orllewin.

Mae'n ymddangos fod yr achos ar dir preifat, mewn onnen oedd newydd ei phlannu.

Dydi'r haint sy'n bygwth dyfodol coed ynn ym Mhrydain wedi cyrraedd Cymru eto, yn ôl Llywodraeth y DU.

Heintiau gwahanol

Yn gynharach dydd Mercher datganodd (DEFRA) fod yr haint Chalara fraxinea wedi lledu i goetir yn siroedd Sussex, Berkshire, Lincoln, Efrog a Bedford.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod yr haint wedi dod i'r amlwg mewn 115 lleoliad hyd yn hyn.

Ddydd Mawrth dywedodd timau sy'n ymchwilio i'r haint mewn coed ynn yng Nghymru fod nifer o goed o dan amheuaeth.

Wrth gadarnhau'r darganfyddiadau dywedodd arbenigwyr y gallai'r effeithiau fod o ganlyniad i nifer o heintiau gwahanol.

Yn y cyfamser, mae cynlluniau i blannu miloedd o goed ynn yng Nghymru wedi'u hatal yn syth fel rhan o ymdrechion i geisio atal y ffwng Chalara fraxinea rhag lledaenu.

Samplau

Mae'r haint eisoes wedi taro nifer o goed mewn meithrinfeydd ar draws y DU.

Hyd yn hyn mae 100,000 o goed yn Lloegr a'r Alban wedi eu dinistrio.

Yng Nghymru, dywedodd y Comisiwn Coedwigaeth fod 100 o staff wedi bod yn arolygu safleoedd sy'n mesur 10 cilometr sgwâr dros y dyddiau diwetha'.

Bydd swyddogion y Comisiwn Coedwigaeth yn anfon samplau i gael eu profi gan arbenigwyr iechyd planhigion os ydyn nhw'n amau bod unrhyw goed yn dioddef o'r haint.

Daeth yr arolwg i ben fore dydd Mawrth ond dyw hi ddim yn glir pa bryd fydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi.

Mae yna 15,348 hectar o goed ynn yng Nghymru, sef 5% o'r 304,000 hectar o goetir yn y wlad i gyd.

Mae'r onnen yn bwysig am ei phren, fel coed tân, fel noddfa bywyd gwyllt a bioamrywiaeth ac fel rhan o'r tirlun.

Mae aelodau o Gomisiwn Coedwigaeth Cymru yn mynychu cynhadledd iechyd coed ddydd Mercher i drafod y broblem yn y DU.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol