Menter Iaith newydd i Fangor?
- Cyhoeddwyd

Mae trefnwyr y cyfarfod yn awyddus i ehangu'r defnydd o'r Gymraeg ym Mangor
Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ym Mangor nos Fawrth i sefydlu Menter Iaith i hyrwyddo ac ehangu'r defnydd o'r Gymraeg yn y ddinas.
Syniad dwy o gynghorwyr Plaid Cymru - Mair Rowlands ac Elin Walker Jones - yw'r fenter.
Maent wedi bod yn ymchwilio i'r syniad dros y flwyddyn ddiwetha'.
Dywedodd y Cynghorydd Elin Walker Jones: "Rydyn ni'n awyddus i bwysleisio o'r dechrau mai cyfarfod cwbl anwleidyddol fydd hwn...Fel rhan o'r noson, bydd gofyn i bobl ffurfio grwpiau llai i drafod ar ffurf gweithdai, gan edrych sut y gellir hyrwyddo'r iaith Gymraeg o fewn sectorau gwahanol megis addysg, swyddi, yr economi, bywyd teuluol, cyfleoedd cymdeithasol ac ati.
"Ein gweledigaeth yw bod yr iaith yn dod yn rhan ganolog o fywyd bob dydd ym Mangor a bod pob dinesydd yn rhannu'r cyfrifoldeb am ei dyfodol a'i ffyniant. Mae angen i'r Gymraeg ddod yn iaith gymdeithasol, naturiol fel bod y genhedlaeth nesaf yn arddel balchder tuag ati i'r dyfodol."
Maent eisoes wedi cynnal trafodaethau cynnar gyda Phrifysgol Bangor, gan gynnwys Canolfan Bedwyr, Urdd Gobaith Cymru, Grŵp Cymunedol Pobl Bangor, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, Pontio a'r Ganolfan Gydol.
Dangosodd ffigurau'r Cyfrifiad diwethaf fod nifer y siaradwyr Cymraeg ym Mangor wedi gostwng i thua 35% o'r boblogaeth erbyn 2011 - gostyngiad o 10% dros gyfnod o 10 mlynedd.
Mae pryderon hefyd ynglyn â phenderfyniad Cyngor Gwynedd i gymeradwyo cais i godi 250 o dai yn ardal Penrhosgarnedd.
Hwn fydd y datblygiad tai mwyaf ym Mangor ers 40 mlynedd.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghlwb Pêl-droed Bangor nos Fawrth, Medi 24, am 7:00yh.