Ymchwiliad cyhoeddus i 'strydoedd Cymreig' Lerpwl
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i ail-ddatblygu 'strydoedd Cymreig' Lerpwl wedi ei hatal, wedi i Lywodraeth y DU alw am ymchwiliad cyhoeddus.
Cafodd cynllun gwerth £15m i ddymchwel 280 o dai yn ardal Toxteth y ddinas a chodi 150 o rai newydd, ei alw i mewn gan yr Ysgrifennydd Cymunedau Eric Pickles.
Mae awdurdodau wedi bod yn ceisio dod i gytundeb am beth i'w wneud gyda'r strydoedd o dai, sydd erbyn hyn yn flêr a llawer ohonynt yn wag, ers dros ddegawd.
Cafodd y tai eu codi gan weithwyr o Gymru yn yr 19eg ganrif, a chafodd y strydoedd eu henwi ar ôl trefi, pentrefi a chymoedd Cymru.
Dirywio
Cafodd y strydoedd eu dynodi gan y Llywodraeth fel ardal y dylid ei ail-ddatblygu er mwyn codi tai mwy modern.
Y gobaith oedd ceisio annog pobl i aros yn y rhannau yna o'r ddinas.
Ond cafodd y cynllun hwnnw ei atal wedi beirniadaeth gan y Swyddfa Archwilio Cenedlaethol yn 2010.
Cafodd y cynllun diweddaraf ei gymeradwyo gan Gyngor Lerpwl, cyn y galwad am ymchwiliad pellach gan y gweinidog.
Cafodd seren y Beatles, Ringo Starr ei eni yn un o'r tai dan ystyriaeth ar Stryd Madryn, a byddai'r adeilad yn un o 37 i gael eu hadfywio os byddai'r cynllun yn mynd ymlaen.
'Hen bryd'
Ond mae'r nifer fach sy'n parhau i fyw yn yr ardal yn dweud ei fod yn hen bryd gwneud rhywbeth gyda'r tai.
"Gallwn ni ddim addurno'r tai oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod os ydynt am gael eu dymchwel," meddai Veronica Griffiths, sydd wedi byw ar Stryd Gwydir am dros ddegawd.
"Dwi wedi gweld llygod mawr yn rhedeg i lawr y strydoedd a dydy o ddim yn ddymunol i gerdded i lawr yr holl strydoedd gwag.
Er hynny, nid pawb sydd yn awyddus i weld y tai yn diflannu.
Mae ymgyrchwyr o Save Britain's Heritage wedi prynu un o'r tai ac wedi gwario £3,000 ar ei adfywio.
Dywedodd Jonathan Brown o'r grŵp: "Buaswn i ddim yn ymgyrchu os nad oedd modd achub y tai."
Mae Mr Pickles wedi dweud y bydd cynlluniau ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus yn cael eu ffurfio yn fuan a byddai'r manylion yn cael eu hysbysebu.