Chris Coleman yn galw naw i garfan Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi galw naw chwaraewr i'w garfan ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Macedonia a Gwlad Belg.
Mae Adam Matthews, Ben Davies, Gareth Bale, Danny Gabbidon, Sam Ricketts, Jack Collison, Joe Allen a Joe Ledley wedi tynnu nôl o'r garfan gyhoeddwyd ddyddIau oherwydd anafiadau.
Mae chwaraewr canol cae Southampton Lloyd Isgrove, 20, yn un sydd wedi ei alw i mewn.
Hefyd mae Owain Tudur Jones, Daniel Alfei, James Wilson, Rhoys Wiggins, Jermaine Easter a Shaun MacDonald yn y garfan ar gyfer y ddwy gêm, ac mae David Cotterill a Jazz Richards yn dychwelyd i ddyletswydd rhyngwladol.
Roedd Gareth Bale, Joe Ledley, Joe Allen ac Andrew Crofts wedi tynnu nôl bron yn syth.
Yna cafodd Ben Davies anaf wrth chwarae i Abertawe yn erbyn Southampton ddydd Sul, anafodd Matthews bont ei ysgwydd wrth chwarae i Celtic a doedd Danny Gabbidon ddim yn nhîm Crystal Palace a deithiodd i Lerpwl ddydd Sadwrn.
Mae Jonathan Williams, hefyd o Crystal Palace, wedi ei anafu'n ogystal, ac er bod Ashley Williams yn dal yn y garfan, mae amheuaeth a fydd yn ddigon iach i chwarae ar ôl methu dwy gêm ddiwethaf Abertawe.
Bydd Cymru'n herio Macedonia yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener cyn teithio i wynebu Gwlad Belg nos Fawrth.
Mae Cymru ar waelod eu grŵp ar ôl ennill chwe phwynt mewn wyth gêm hyd yma, ac mae'n amhosib iddyn nhw gyrraedd y rowndiau terfynol yn Brasil y flwyddyn nesaf.
Mae nifer wedi codi amheuon am ddyfodol Coleman fel rheolwr, ac mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru Jonathan Ford wedi awgrymu y gallai canlyniadau'r ddwy gêm nesaf benderfynu a fydd y gymdeithas yn cynnig cytundeb newydd iddo.
Carfan Cymru:
W Hennessey (Wolves), B Myhill (West Brom), O Fon Williams (Tranmere), C Gunter (Reading), N Taylor (Abertawe), A Williams (Abertawe), D Alfei (Abertawe), J Wilson (Bristol City), R Wiggins (Charlton), A Richards (Huddersfield), D John (Caerdydd), A King (CaerlÅ·r), A Ramsey (Arsenal), D Vaughan (Sunderland), L Isgrove (Southampton), O Tudur Jones (Hibernian), S MacDonald (Bournemouth), D Cotterill (Doncaster), C Bellamy (Caerdydd), S Church (Charlton), H Robson-Kanu (Reading), S Vokes (Burnley), J Easter (Crystal Palace).