'Methu gwario arian sydd ddim yna'
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi amddiffyn y gyllideb ddrafft, gan ddweud na all ei lywodraeth wario arian nad oes ar gael.
Yn gynt roedd llefarydd cyllid y Ceidwadwyr, Paul Davies, wedi beirniadu Llafur am beidio gwario mwy ar iechyd yn y gorffennol.
Mae cyrff iechyd wedi croesawu'r newyddion y bydd mwy yn cael ei wario yn eu maes nhw.
Ond mae mudiad sy'n cynrychioli awdurdodau lleol wedi codi pryderon bod y penderfyniad yn golygu bod adrannau eraill ar eu colled.
'Llafur yn cyfaddef'
Ar raglen y Post Prynhawn dywedodd y Ceidwadwr Paul Davies y dylai'r penderfyniad i wario mwy ar iechyd fod wedi ei wneud lawer ynghynt.
"Mae'n bwysig bod y gyllideb hon yn darparu ar gyfer pobl Cymru achos yn y gorffennol mae'r Llywodraeth Lafur wedi methu yn achos iechyd ...
"Rydym yn croesawu'r ffaith eu bod nhw'n gwario mwy ar y Gwasanaeth Iechyd ond mae'n glir heddiw eu bod nhw'n cyfaddef eu bod nhw wedi methu â gwario arno'n briodol dros y blynyddoedd diwethaf.
"Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn y sefyllfa hon oherwydd beth sydd wedi bod yn digwydd dros y blynyddoedd diwethaf."
Ond gwadodd Carwyn Jones hyn.
"Rhaid i ni gofio bod y llywodraeth Dorïaidd yn Llundain ddim yn help i Gymru o gwbl - y pwynt yw rydym wedi colli £1.7 biliwn o'r gyllideb dros y blynyddoedd diwethaf ...
"Ni'n ffaelu gwarchod Cymru yn gyfan gwbl yn erbyn polisïau'r Deyrnas Unedig na chwaith yn erbyn beth sy'n digwydd yn fydeang."
'Setliad gwaethaf'
Mae sefydliadau sy'n cynrychioli gweithwyr ym maes iechyd wedi croesawu'r buddsoddiad ychwanegol dros y tair blynedd nesaf.
Dywedodd Conffederasiwn GIG Cymru eu bod yn "croesawu'r ffaith bod cyllideb heddiw yn cydnabod bod gwasanaethau iechyd angen cefnogaeth er mwyn gallu bodloni anghenion pobl Cymru ..."
Ond dywedodd y Cynghorydd Bob Wellington o Dorfaen, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mai'r setliad oedd "yr un gwaethaf ers datganoli" ar gyfer llywodraeth leol.
"Yn anffodus, ar sail y setliad ddrafft yma gallwn ddisgwyl bod nifer ein gweithlu yn lleihau eto ac y bydd mwy o wasanaethau yn cau," ychwanegodd.
Hunllef
Dywedodd Nick Servini, Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru: "Mae'r gyllideb yn cyfateb i hunllef cyn Noson Galan Gaeaf i gynghorau lleol.
"Hyd yma maen nhw wedi cael eu harbed rhag toriadau mawr o'i gymharu â rhai Lloegr ond maen nhw yn wynebu llyncu moddion chwerw dros y ddwy flynedd nesaf - bydd tua 9% o'u cyllidebau yn diflannu mewn termau real.
"Mae'r rhybuddion wedi bod yn glir dros y misoedd diwethaf ond bydd llawer o gynghorwyr yn siŵr o gael sioc o weld y ffigyrau mewn du a gwyn."
Gan fod Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth y cynghorau i beidio â thorri gwariant ar ysgolion a gofal gymdeithasol, meddai, bydd yr opsiynau ar gyfer ble i dorri yn gyfyngedig.
Llyfrgelloedd, amgueddfeydd, goleuadau strydoedd ac ati - dyma'r math o leoedd ac adnoddau sy'n debygol o gael eu heffeithio.
"Pam fod y moddion yn gorfod bod mor chwerw?
"Oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu, ar ôl haf o adolygu anghenion y Gwasanaeth Iechyd, ei fod angen mwy o arian.
"Mae blynyddoedd o weld eu harian yn aros yr un faint wedi arwain at dargedau'n cael eu methu ac mae'r Gwasanaeth Iechyd wedi wynebu penawdau anodd iawn yn y cyfryngau."
Dywedodd fod gweinidogion wedi pendefynu mai digon yw digon. Bydd y gwasanaeth yn derbyn £150m yn syth, wedi ei ddilyn gan £180m y flwyddyn nesaf a £240m y flwyddyn ganlynol.
"Ond rhaid cofio na wnaiff gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd ddal i fyny gyda chwyddiant y flwyddyn nesaf na'r flwyddyn wedyn.
"Er hynny bydd yr arian yn siŵr o dderbyn croeso cynnes gan gyfarwyddwyr cyllid o fewn byrddau iechyd lleol."
'Yn waeth'
Dywedodd y byddai addysg yn wynebu gorfod llyncu peth o'r moddion hefyd.
Maen nhw'n wynebu toriad mewn termau real o tua 10% yn eu gwariant o ddydd i ddydd dros y ddwy flynedd nesaf.
"Mae'r Adran Adnoddau Naturiol a Bwyd yn wynebu problemau fydd yn waeth, sef toriad o 15% ar ôl chwyddiant dros y ddwy flwyddyn nesaf."
Ond y ffaith bod iechyd yn derbyn mwy o arian unwaith eto, meddai, fydd yn mynd â'r penawdau.
Hynny, o bosib, yw'r newid polisi mwyaf yn ystod y tymor hwn yn y Cynulliad.
Bydd neuaddau tref yn gorfod delio gydag oblygiadau hynny.