Collins a Coleman yn cymodi

  • Cyhoeddwyd
James CollinsFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Collins yn cwrdd â'r rheolwr ddydd Mercher

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru Chris Coleman wedi galw'r amddiffynnwr James Collins i'w garfan i wynebu Gwlad Belg a Macedonia.

Mae hyn yn dilyn cyfarfod rhwng y ddau yn gynharach ddydd Mercher.

Mae Harry Wilson, 16, sy'n chwarae i Lerpwl hefyd wedi cael ei ychwanegu i'r garfan.

Fe wnaeth Wilson serenu i dîm dan 17 Cymru yn ddiweddar, yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Ffrae

Roedd Coleman wedi dweud bod Collins wedi gwrthod ymuno â charfan Cymru cyn y gêm yn erbyn Serbia ym mis Medi.

Roedd Collins, sy'n 30 oed, wedi gwadu hynny.

Ond yn dilyn cyfarfod rhwng y ddau ddydd Mercher, roedd amddiffynnwr West Ham yn rhan o sesiwn hyfforddi gyda'r garfan y diwrnod hwnnw.

Mae 10 o chwaraewyr wedi eu hanafu ac felly ddim ar gael i wynebu Macedonia ddydd Gwener a Gwlad Belg oddi cartref ar Hydref 15 yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Ymhlith y rhai sydd wedi eu hanafu mae'r amddiffynwyr Ashley Williams, Adam Matthews, Ben Davies, Danny Gabbidon a Sam Ricketts.

Mae Cymru yn ceisio osgoi gorffen ar waelod Grŵp A.