Neuadd Pantycelyn dros y blynyddoedd
- Cyhoeddwyd

Agorodd Neuadd Pantycelyn yn 1951 fel neuadd breswyl i fyfyrwyr gwrywaidd yn unig.

Yr adeg yna roedd llyfrgell ar gyfer y myfyrwyr yn yr adeilad.

Daeth Pantycelyn yn neuadd breswyl cyfrwng Cymraeg yn 1974.

Mae cyfleusterau cymunedol y neuadd, fel y ffreutur, yn cael eu hystyried yn fannau pwysig i fyfyrwyr gymdeithasu.

Ers ei sefydlu, bu Pantycelyn yn gartref i dros 3,500 o fyfyrwyr.

Bu Dr John Davies, hanesydd ac awdur y gyfrol Hanes Cymru, yn warden neuadd am 18 mlynedd.

Yn Hydref 2013 bu protestiadau am gynlluniau Prifysgol Aberystwyth i gau Neuadd Pantycelyn a symud y myfyrwyr i fflatiau newydd.