Carwyn Jones: 'Trychineb' os na ddaw pwerau
- Cyhoeddwyd
Byddai'n "drychineb" i Gymru pe na bai'r pwerau y gwnaeth Comisiwn Silk eu hargymell yn cael eu datganoli i Gymru, yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Bydd Mr Jones yn codi ei bryderon gyda Llywodraeth y DU yn Downing Street mewn cyfarfod o'r Cydbwyllgor Gweinidogion yr wythnos hon.
Mewn cyfweliad â rhaglen Radio Wales, Sunday Supplement, gofynnwyd i Mr Jones a oedd e'n meddwl fod argymhellion Silk wedi eu gwthio'n barhaol i'r borfa hir, a dywedodd:
"Byddai'n llawer gwell i bawb pe bydden nhw'n dweud yn syml - ie fe wnawn ni dderbyn argymhellion Silk gallwn ni i gyd symud ymlaen.
"Galla' i wedyn ddweud wrth bobl yn yr Alban - dyma esiampl o ddatganoli'n gweithio a pham nad oes angen annibyniaeth.
"Ar hyn o bryd, o bersbectif Albanaidd, y cyfan welan nhw yw datganoli'n cael ei rwystro gan Lywodraeth y DU yn Llundain."
Aeth ymlaen i ddweud y byddai'n drychineb i Gymru pe na bai argymhellion Silk yn cael eu gweithredu.
"Fydden ni yn llythrennol yn methu gwneud pethau. Fydden ni ddim yn gallu gwella'r M4 heb bwerau benthyg - fydd e ddim yn digwydd," meddai.
"Os na gawn ni synnwyr ar hyn does dim modd hyd yn oed ystyried ffordd liniaru'r M4... ble y gallai hi tase hi'n cael ei hadeiladu yn Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
"Nawr mae hynny i'n cymuned fusnes yn anfantais gystadleuol enfawr, na allwn ni wneud pethau i wella swyddi yng Nghymru, i wella economi Cymru, yn syml oherwydd beth sy'n digwydd yng Nghymru.
"Hynny yw, pam ddylid gwahaniaethu yn erbyn Cymru yn y modd hynny - dyna'r pwynt fydda i'n ei wneud."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd30 Medi 2013
- Cyhoeddwyd16 Medi 2013
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2013