Cyngor Rhondda Cynon Taf yn sôn am doriadau llym

  • Cyhoeddwyd
Cyngor Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor angen arbed £56 miliwn mewn pedair blynedd.

Mae arweinydd ail gyngor mwyaf Cymru wedi dweud y bydd torri gwasanaethau'n "creu anrhefn a dinistr".

Dywedodd Anthony Christopher, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, fod posibilrwydd y bydd mwy na hanner llyfrgelloedd y sir a chanolfannau dydd yn cau.

Mae'r cyngor wedi dweud bod rhaid arbed £56 miliwn o fewn cyfnod o bedair blynedd.

Un syniad sy'n cael ei argymell er mwyn arbed £4.5 miliwn y flwyddyn yw bod plant yn dechrau addysg llawn amser flwyddyn yn ddiweddarach.

Ar hyn o bryd mae plant y sir yn cael mynychu ysgol ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed.

Toriadau

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ddydd Mercher faint o arian fydd yr awdurdodau unigol yn ei gael.

Roedd cyllideb ddrafft y llywodraeth yn cyfeirio at doriadau o 5.81% ar gyfartaledd.

Dywedodd Mr Christopher, Arweinydd y Grŵp Llafur, ei fod yn beio Llywodraeth San Steffan am unrhyw doriadau i wasanaethau lleol.

"Ni fydd unrhyw gymuned yn osgoi'r toriadau oherwydd y cyfnod ofnadwy hwn.

"Argymhellion cynnar yw'r rhain ... ond rhaid i'r cyngor ystyried newidiadau i'r gwasanaeth presennol oherwydd effaith cyfyngiadau gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac effaith hynny ar gyllid ar gael i lywodraeth leol yng Nghymru."

14 o lyfrgelloedd

Fe fydd aelodau cabinet y sir yn cwrdd yr wythnos nesa' i ystyried toriadau i bump o wasanaethau penodol, oedran plant sy'n dechrau'r ysgol, pryd ar glud, gwasanaethau ieuenctid, llyfrgelloedd a chanolfannau dydd.

Mae'r cyngor yn sôn am y posibilrwydd o gau 14 o lyfrgelloedd allan o gyfanswm o 26 sef Treherbert, Ton Pentref, Penygraig, Ynyshir, Maerdy, Cwmbach, Penrhiwceibr, Ynysybwl, Cilfynydd, Tonyrefail, Nantgarw, Beddau a Phont-y-clun.

Yn ôl y cyngor, byddai cau'r llyfrgelloedd yn arbed £800,000 y flwyddyn

Fe allai newidiadau yn y gwasanaeth ieuenctid arbed £2.2 miliwn tra bod modd arbed £300,000 drwy roi'r gorau i'r gwasanaeth pryd ar glud ar y penwythnos.

Byddai prydau ar gyfer y penwythnos yn cael eu dosbarthu ddydd Gwener.

Fe fydd y cabinet yn ystyried cau 10 canolfan ddydd er mwyn arbed £600,000 y flwyddyn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol