Y toriadau: Cyngor wrth gyngor

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi faint o arian yn union y bydd pob cyngor yn ei dderbyn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Dyma fanylion pob cyngor, gan gynnwys setliad eleni a setliad y flwyddyn ariannol nesa' (2014-15).

Dylid nodi bod yr hyn y mae'r cynghorau'n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn cyfateb i tua 80% o'u holl incwm.

Cyngor Sir Abertawe

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £328.226m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £317.932m

Newid (£): -£10.294m

Newid (%): -3.1%

Ymateb: "Rydym wedi bod yn ymgynghori gyda thrigolion lleol yn barod ac mae'r rhan fwyaf o bobl rwyf wedi bod yn siarad gyda nhw yn deall mai nid bai'r cyngor yw'r sefyllfa ariannol anodd," meddai Rob Stewart, aelod o'r cabinet sy'n gyfrifol am gyllid.

Cyngor Sir Blaenau Gwent

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £117.336m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £112.834m

Newid (£): -£4.502m

Newid (%): -3.8%

Cyngor Bro Morgannwg

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £165.202m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £157.774m

Newid (£): -£7.428m

Newid (%): -4.5%

Ymateb: "Mae'r cyngor yn bwriadu cydweithio ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd, creu swyddi wedi eu hariannu ar y cyd yn wyneb diffyg o £25.7m," meddai llefarydd.

Cyngor Sir Caerdydd

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £447.832m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £435.043m

Newid (£): -£12.789m

Newid (%): -2.9%

Ymateb: Dywedodd llefarydd: "Rydym yn ceisio delio â diffyg o £125m o fewn tair blynedd.

"Fe fyddwn yn ailasesu sut mae grantiau'n cael eu rhoi ac yn anelu at ddarparu gwasanaethau ar sail anghenion a blaenoriaethau yn y gymuned.

"Rydym yn ystyried rhai mesurau allai olygu llai o wasanaethau neu ddod â rhai i ben."

Cyngor Sir Caerffili

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £280.749m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £272.285m

Newid (£): -£8.464m

Newid (%): -3.0%

Ymateb: "Er bod y sefyllfa yn un heriol mae Caerffili mewn sefyllfa well o'i chymharu ag ambell i awdurdod lleol arall yng Nghymru oherwydd strategaeth ariannol gadarn y cyngor dros y blynyddoedd diwethaf," meddai llefarydd.

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £271.406m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £260.709m

Newid (£): -£10.697m

Newid (%): -3.9%

Ymateb: "Rydym eisoes wedi tynhau ein beltiau, gan wneud arbedion effeithlonrwydd dros y blynyddoedd diwethaf, sy'n golygu y bydd dod o hyd i fwy o doriadau yn anodd," meddai arweinydd y cyngor Kevin Madge.

Cyngor Sir Casnewydd

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £217.197m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £214.608m

Newid (£): -£2.589m

Newid (%): -1.2%

Ymateb: "Bydd y blynyddoedd sydd i ddod yn anodd iawn a bydd yr effaith ar wasanaethau yn sylweddol," meddai llefarydd.

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £217.937m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £209.496m

Newid (£): -£8.441m

Newid (%): -3.9%

Ymateb: "Fe fyddwn ni'n edrych ar fanylion y setliad ac yn paratoi adroddiad i'r cabinet gydag opsiynau ar gyfer arbedion," meddai llefarydd.

Cyngor Sir Ceredigion

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £108.673m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £103.708m

Newid (£): -£4.965m

Newid (%): -4.6%

Ymateb: "Hyd yn hyn does dim penderfyniadau," meddai llefarydd.

Cyngor Sir Conwy

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £163.501m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £157.567m

Newid (£): -£5.934m

Newid (%): -3.6%

Ymateb: "Rhwng 2012 a 2017 rydym yn proffwydo y bydd diffyg o £5m y flwyddyn hyd yn oed o ystyried codiad treth y cyngor o 5% y flwyddyn.

"Mi fydd yn sefyllfa ariannol heriol iawn.

"Rydym yn proffwydo diffyg o £4.5m yn 2014-15 a'r un lefel fwy na thebyg yn 2015-16 a 2016-17."

Cyngor Sir Ddinbych

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £152.103m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £145.080m

Newid (£): -£7.023m

Newid (%): -4.6%

Ymateb: "Mae'r toriad o 4.6% yn rhan fwyaf difrifol y raddfa o doriadau rydym wedi bod yn cynllunio ar eu cyfer a bydd rhaid i'r cyngor wneud penderfyniadau anodd," meddai llefarydd.

Cyngor Sir Y Fflint

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £200.057m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £192.873m

Newid (£): -£7.184m

Newid (%): -3.6%

Ymateb: Dywedodd arweinydd y cyngor Aaron Shotton: "Y dasg fydd cynllunio newid sylweddol a chyflym yn y cyngor, mantoli'r cyfrifon ar gyfer 2014-15 ac amddiffyn gwasanaethau lleol hyd eithaf ein gallu."

Cyngor Gwynedd

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £182.089m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £174.621m

Newid (£): -£7.468m

Newid (%): -4.1%

Ymateb: "Rydym yn rhagweld ein hunain yn wynebu diffyg o £16 miliwn ar gyfer 2014-15. Diolch i gynllunio tymor hir rydym eisoes wedi llwyddo i ddarganfod dros £6 miliwn o arbedion a gallwn ddarganfod £6 miliwn arall. Ond bydd angen chwilio am £4 miliwn ychwanegol," meddai Peredur Jenkins, yr aelod cabinet sy'n gyfrifol am adnoddau.

Cyngor Merthyr Tudful

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £93.269m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £91.193m

Newid (£): -£2.076m

Newid (%): -2.2%

Cyngor Sir Fynwy

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £101.926m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £97.472m

Newid (£): -£4.454m

Newid (%): -4.4%

Ymateb: "Rydym yn siomedig ond heb ein synnu gan y toriad arfaethedig o 4.4% gan Lywodraeth Cymru ac er ei fod ychydig yn waeth a'r disgwyl rydym wedi bod yn cynllunio ar gyfer toriad tebyg ers peth amser," meddai Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy.

Cyngor Sir Penfro

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £173.253m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £166.705m

Newid (£): -£6.548m

Newid (%): -3.8%

Ymateb: "Rydym ni fel awdurdod ar sylfaen ariannol gadarn ac rydym yn barod i wynebu'r heriau yma," meddai Jamie Adams, arweinydd y cyngor.

Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £200.328m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £194.679m

Newid (£): -£5.649m

Newid (%): -2.8%

Ymateb: "Does dim modd cuddio rhag realiti'r sefyllfa rydym yn ei hwynebu na'r ffaith y bydd rhaid i ni ddechrau edrych ar wneud arbedion mewn meysydd sydd wedi cael eu hamddiffyn yn y gorffennol," meddai Mel Nott, Arweinydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr.

Cyngor Powys

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £190.885m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £182.169m

Newid (£): -£8.716m

Newid (%): -4.6%

Ymateb: "Rydym wedi cael ein gorfodi i wneud penderfyniadau amhoblogaidd yn barod oherwydd yr hinsawdd economaidd ond rwy'n ofni bydd y blynyddoedd nesaf yn gweld llawer mwy o ddadlau ac rwy'n gobeithio y bydd trigolion Powys yn deall ein hanawsterau," meddai Arweinydd Cyngor Powys David Jones.

Cyngor Rhondda Cynon Taf

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £379.103m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £366.599m

Newid (£): -£12.504m

Newid (%): -3.3%

Ymateb: "Er i mi fod mewn llywodraeth leol am chwarter canrif dydw i erioed wedi gorfod ystyried rhagolwg mor llym ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus," meddai Anthony Christopher, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Cyngor Torfaen

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £140.175m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £135.225m

Newid (£): -£4.95m

Newid (%): -3.5%

Cyngor Wrecsam

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £181.426m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £175.110

Newid (£): -£6.316m

Newid (%): -3.5%

Ymateb: "Yn anffodus, mae'r sefyllfa ariannol yn edrych yn wael o ran y blynyddoedd nesaf. Mae'r her o ddarganfod toriadau o £13 miliwn yn y flwyddyn nesaf yn anferth ond mae her y tymor hir hyd yn oed yn waeth," meddai Malcolm King, aelod o'r cabinet sy'n gyfrifol am gyllid.

Cyngor Sir Ynys Môn

Cyllideb ar gyfer 2013-14: £100.338m

Cyllideb ar gyfer 2014-15: £96.326m

Newid (£): -£4.012m

Newid (%): -4%

Ymateb: "Mae'n debyg y cawn ein gorfodi unwaith eto i godi treth y cyngor hyd at yr uchafswm o bump y cant gan fod cynnydd llai ddim yn gynaliadwy," meddai Ieuan Williams, arweinydd y cyngor.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol