Y cerflunydd John Meirion Morris i ysgogi cerddorion
- Cyhoeddwyd
Am y tro cynta' erioed mae'r Urdd wedi dewis testun penodol ar gyfer cystadleuaeth y Fedal Gyfansoddi.
Bydd cyfansoddwyr yn creu darnau yn seiliedig ar waith y cerflunydd John Meirion Morris yn Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd yn 2014.
Er bod yna thema benodol ar gyfer y prif wobrau eraill, mae'r gystadleuaeth wedi bod yn un agored ar hyd y blynyddoedd yn y categori cyfansoddi.
Ond roedd y pwyllgor cerdd lleol ym Meirionnydd eisiau gosod thema am eu bod yn meddwl y byddai hyn yn sbarduno cerddorion ac yn annog pobl i gystadlu.
'Amrywiaeth'
Mae John Meirion Morris wedi dylunio sawl cerflun o enwogion Cymru gan gynnwys Ray Gravell, y casglwr llyfrau Bob Owen a'r gwleidydd Gwynfor Evans.
Yn ôl Iwan Wyn Parry, is-gadeirydd y Pwyllgor Cerdd ym Meirionnydd, mae digon o amrywiaeth yng ngwaith y cerflunydd i ysgogi syniadau.
Meddai: "Trwy'r canrifoedd mae amrywiaeth o ddylanwadau wedi bodoli wrth greu cerddoriaeth ac mae gwaith John Meirion Morris, sydd yn enedigol o Lanuwchllyn, yn sicr o ennyn diddordeb, edmygedd ac yn siŵr o ddylanwadu egin gerddorion i greu.
"Mae ystod ei waith mor amrywiol - o ddylanwadau'r cerfluniau symbolaidd, crefyddol yn ystod ei gyfnod yn darlithio yn Ghana, i'r ymchwil helaeth a wnaeth i gelfyddyd Geltaidd La Tene.
'Ysgogiad'
"Mae ganddo hefyd bortffolio eang o benddelweddau beirdd, llenorion a phobl amlwg Cymreig megis Gwenallt, Gerallt Lloyd Owen a Ray Gravell - a all yn eu hunain ddylanwadu a symbylu person ifanc i gyfansoddi."
"Ysgogiad" ddylai ei waith fod, meddai John Meirion Morris, ac nid testun llythrennol.
"Yn fy marn i," meddai'r cerflunydd, "ysgogiad yn unig ddylai'r cerfluniau fod, ac nid testun caeth i'w astudio sy'n adlewyrchu pob manylyn o'r cerflun fel cyfanwaith, cyn dechrau creu.
"Er enghraifft, hwyrach y gall teimladau neu rythm cryf ambell gerflun, megis mynegiant ffurf y côr yn canu ac yn sgrechian yng ngherflun 'Cofeb Tryweryn', fod yr unig ysgogiad sydd ei angen i sicrhau fod y disgybl yn cychwyn ar y broses o greu darn o gerddoriaeth."
Mawrth 1 yw'r dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth ac mae modd gweld enghreifftiau o waith John Meirion Morris ar ei wefan, dolen allanol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Sion: "Mae gennym bwyllgor cerdd bywiog a brwdfrydig ym Meirionnydd, ac rydym yn croesawu syniadau newydd fel hyn ar gyfer ein prif wobrau. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i John Meirion Morris am fod mor barod i gydweithio gyda ni ac rwy'n hyderus y bydd ei waith yn ysgogi ein hieuenctid talentog."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2013