Ffrae dros nifer y gwelyau mewn ysbytai
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y gwelyau sydd ar gael o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi gostwng 19% mewn degawd.
Roedd 14,265 o welyau ar gael yn 2002-03 ond erbyn 2012-13 roedd y nifer wedi gostwng i 11,495.
Mae'r Ceidwadwyr wedi beirniadu hyn gan ddadlau bod diffyg gwelyau yn rhoi straen ychwanegol ar y system iechyd.
Ond mae Llywodraeth Cymru'n dadlau bod y pwyslais ar roi gofal i gleifion yn y gymuned yn golygu bod y gostyngiad yn un "addas".
Llai o welyau yn rhydd
Bob blwyddyn mae Llywodraeth Cymru'n rhyddhau'r wybodaeth am nifer y gwelyau sydd ar gael ymhob bwrdd iechyd yn ogystal â ffigyrau faint o'r rhain sydd yn cael eu defnyddio.
Mae tuedd glir i'w gweld yn y ffigyrau sy'n dangos bod llai o welyau wedi bod ar gael ers 2002 ond dyw'r ffigyrau ar gyfer faint o'r rhain sy'n cael eu defnyddio ddim mor eglur.
Rhwng 2002 a 2010 roedd y gyfradd yn eithaf sefydlog - tua 83% - ond mae cyfradd uwch wedi cael eu llenwi ers hynny ac erbyn 2012-13 roedd y gyfradd yn 86.3%.
Mae'r Ceidwadwyr wedi beirniadu'r llywodraeth gan ddweud ei bod nhw wedi gadael i'r sefyllfa waethygu.
'Pwysau digynsail'
Dywedodd eu llefarydd iechyd Darren Millar: "Mae'r ffigyrau cythryblus yma'n dangos sut mae Llafur wedi cael gwared ar un allan o bob pump o welyau'r gwasanaeth iechyd dros y ddegawd ddiwethaf, gan arwain at y gyfradd defnydd gwelyau uchaf mewn dros ddegawd a phwysau digynsail ar wardiau ysbytai.
"Cafodd nifer y gwelyau eu torri 3% y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae hyn heb os yn cael eu gyrru gan doriadau digynsail sydd wedi eu gosod gan lywodraeth Carwyn Jones.
"Pan nad oes digon o welyau mewn ysbytai mae mwy o straen yn cael ei roi ar staff. Mae adrannau gofal brys yn llenwi sy'n golygu bod parafeddygon yn methu symud y cleifion ddigon cyflym felly mae ambiwlansys yn gorfod oedi cyn mynd ymlaen at eu galwad nesaf."
"Mae'r ffaith bod cynlluniau i ad-drefnu ysbytai yn golygu bod mwy o welyau yn cael eu torri'n destun pryder."
Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn cydnabod bod y tuedd yn un sy'n achosi problemau.
'Priodol'
Maen nhw'n dadlau bod y pwyslais angen bod ar drin cleifion yn y gymuned.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Er bod gwelyau ysbyty yn amlwg yn bwysig, rydym yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaeth iechyd i sicrhau fod y capasiti cyffredinol o fewn y system gofal iechyd ehangach yn briodol.
"Ein gweledigaeth ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yw bod yno ar gyfer pobl pan maen nhw wir ei angen gan ddarparu gwasanaethau modern sy'n canolbwyntio ar atal afiechyd, yn nes at gartrefi pobl.
"Mae hyn yn golygu symud i ffwrdd o ddefnyddio nifer y gwelyau mewn ysbytai gan ganolbwyntio ar sut y gallwn gadw pobl allan o'r ysbyty, a darparu mwy o integreiddio o iechyd a gofal cymdeithasol.
"Mae'n briodol felly bod nifer y gwelyau ysbyty yn gostwng yn raddol ac mae hyn yn duedd sy'n gwbl gyson â'r hyn sy'n digwydd ar draws gweddill y DU."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2013