Bedwas: 132 o swyddi yn y fantol
- Cyhoeddwyd
Mae busnes yn ardal Bedwas, ger Caerffili wedi dweud bod 132 o swyddi yn y fantol yn dilyn cynnig i gau'r safle.
Yn ôl Sapa Profiles UK - y cwmni sy'n berchen ar y safle - newidiadau yn y farchnad alwminiwm yn y DU yw'r rheswm pam eu bod wedi penderfynu ymgynghori gyda gweithwyr ac undebau ynglŷn â chau.
Maen nhw'n dweud y byddan nhw'n ystyried opsiynau eraill yn ystod y cyfnod hwn.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Safa Profiles UK Alan Couturier: "Yng ngoleuni'r newidiadau i amodau'r farchnad mae'n ymrwymiad i barhau i gynhyrchu yn y DU yn parhau i fod yn gryd.
"Rydym yn credu bod galw yn y DU am gynhyrchwr o safon sy'n gallu darparu lefel o wasanaeth sy'n well na be mae cwsmeriaid yn ei ddisgwyl. Mae cyrraedd y nod hwn yn hanfodol ar gyfer ein strategaeth hir dymor.
"Rydym yn cydnabod yr effaith bydd y cyhoeddiad yma yn ei gael ar ein cydweithwyr ym Medwas.
"Rydym yn gobeithio'n arw fod posib darganfod opsiynau arall yn hytrach na gorfod cau ac yn rhoi pob ymdrech i wneud hynny."
Mae Aelod Seneddol Caerffili Wayne David wedi dweud ei fod yn credu bod cadw'r safle'n agored yn bwysig ar gyfer yr economi leol.
"Rwy'n pryderu'n eithriadol ynglŷn â chyhoeddiad heddiw," meddai Mr David.
"Rydw i wedi siarad gyda'r cwmni ac wedi derbyn sicrwydd y bydd ymgynghoriad lawn gyda'r gweithwyr, undeb Unite, y cyngor lleol, Llywodraeth Cymru, yr Aelod Cynulliad a minnau cyn bydd unrhyw benderfyniadau'n cael eu cymryd."
Ychwanegodd:"Mae'n hollbwysig gwneud popeth sy'n bosib er mwyn arbed y swyddi yma.
"Mae Sapa yn gyflogwr pwysig ac os bydd y ffatri'n cau bydd yn ergyd i'r economi leol."
Cafodd y safle ym Medwas ei agor yn 1971 gan gwmni Hydro sydd bellach yn rhan o Sapa, sydd â'i bencadlys yn Norwy.