Pwyllgor Cynulliad yn craffu ar gynlluniau M4

  • Cyhoeddwyd
M4Ffynhonnell y llun, Mathew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r cynllun yn golygu adeiladu traffordd newydd i'r de o Gasnewydd er mwyn lleihau tagfeydd ar yr M4

Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i adeiladu traffordd newydd yn ne ddwyrain Cymru o dan y chwyddwydr ddydd Mercher, wrth i Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad glywed barn amryw o gyrff ac ymgyrchwyr.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, gyda gweinidogion yn dweud y gallai pwerau benthyg newydd, a gafodd eu cyhoeddi ddydd Gwener, dalu am y ffordd fawr.

Mae problemau traffig yr M4, yn enwedig o gwmpas twneli Brynglas ger Casnewydd, yn bwnc trafod ers degawdau.

Mae'r llywodraeth yn ymgynghori ar y posibilrwydd o godi traffordd newydd i'r de o Gasnewydd, drwy wastadeddau Gwent.

Mae tri opsiwn dan ystyriaeth, gan gynnwys gwneud dim byd. Ond mae'r llywodraeth yn ffafrio adeiladu ffordd newydd chwe lôn gwerth £1 biliwn.

Byddai hyn yn newid llwybr yr M4 ac yn mynd â hi o Fagwyr yn y dwyrain, drwy'r gwastadeddau islaw Casnewydd ac yna'n ailymuno â'r ffordd bresennol. Byddai'r llwybr hwn yn osgoi twneli Brynglas.

Cefnogaeth

Yn ôl Elgan Morgan, o Siambr Fasnach De Cymru, mae 'na gefnogaeth eang i'r cynlluniau.

"Ni wedi gofyn i'n haelodau be' ma' nhw'n meddwl o'r opsiyne mae'r llywodraeth wedi dod 'mlaen ac ma' 80% yn cefnogi gwneud rhywbeth i'r M4 o amgylch Casnewydd," meddai.

"Mae 'na fusnesau sy'n cludo nwyddau o biti'r lle sy' ishe cael nhw i rywle ar amser ac mae'r bottlenecks o gwmpas Casnewydd wastad yn dala nhw lan."

Ond mae adeiladu ffordd newydd yn bwnc dadleuol a bydd barn unigolion o bob ochr yn cael ei glywed yn y pwyllgor ddydd Mercher, gan gynnwys cynrychiolwyr o fyd trafnidiaeth, busnes a'r amgylchedd.

Rhywogaethau prin

Un o'r rhai fydd yn annerch y pwyllgor yw Gareth Clubb, o Gyfeillion y Ddaear, sy'n poeni am effaith y draffordd ar gynefinoedd bywyd gwyllt y gwastadeddau.

"Mae'r ardal yma'n arbennig iawn iawn - mae 'na bob math o rywogaethau, rhai yn brin iawn, sydd yn byw yn y ffosydd ac yn yr ardaloedd gwledig yma.

"Bydde ffordd fawr newydd yn hollti'r rhan fwya' o'r gwastadeddau ac os y'ch chi'n hollti'r rhywogaethau hynny, fe fydd 'na effaith andwyol ar y poblogaethau."

A48

Un arall fydd yn siarad gyda'r pwyllgor ddydd Mercher yw'r Athro Stuart Cole, sydd eisiau i'r llywodraeth ystyried cynllun arall.

"Be dwi'n dodi 'mlaen i'r cynulliad ydy scheme arall, sydd yn costio llawer yn llai ond sydd, yn fy marn i, yn mynd i wneud y job - gwella'r A48 a hefyd datblygu beth ma' nhw'n galw y Steelworks Road.

"Wrth edrych ar y forecast fel ma' traffig yn mynd i dyfu dros yr 20 mlynedd nesa', ry'n ni'n gweld fod o'n dod at plateau.

"Does dim pwynt, felly, gwario mwy o arian na sydd raid ar heol sy'n mynd i fod yn rhy fawr i'r hyn ry'n ni ishe dros yr 20 neu 30 mlynedd nesa'."

Bydd y pwyllgor yn cyhoeddi adroddiad eu hunain ar gynlluniau'r llywodraeth maes o law.

Yn y cyfamser, mae gan y cyhoedd bum wythnos yn weddill i fynegi eu barn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol