'Angen ystyried yr iaith drwy'r amser'
- Cyhoeddwyd
Bydd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg yn dweud ddydd Gwener bod rhaid i'r iaith gael ei hystyried fel rhan o'r broses o lunio pob deddf a phob polisi.
Yn ddiweddarach bydd Ms Huws yn annerch seminar flynyddol y Cyngor Prydeinig a Gwyddelig yng Nghaeredin.
Mae Ms Huws am weld statws ac ystyriaeth i'r iaith Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd yng Nghymru, er mwyn cyflawni'r hyn gafodd ei osod ym Mesur y Gymraeg 2011.
Nid yw'r Comisiynydd, sydd wedi bod yn ei swydd ers 2011, yn teimlo bod statws y Gymraeg yn rhywbeth "real" all gael ei deimlo a'i glywed ym mywydau pobl.
Dywedodd bod angen "i'r Gymraeg fod yn weladwy mewn deddfwriaeth sy'n ymwneud â'r economi, cyfiawnder cymdeithasol, addysg, iechyd, gofal ac yn y blaen."
'Nid siarad gwag'
Yn siarad ar y Post Cyntaf fore Gwener, dywedodd mai nid ond siarad gwag oedd hyn, ond bod newid eisoes wedi digwydd.
"'Y'n ni wedi cynnig gwelliannau i fil gofal cymdeithasol sy'n cael ei drafod ar lawr y senedd ar hyn o bryd," meddai.
"Doedd dim cyfeiriad at y Gymraeg yn y drafft cynta', fe wnaethon ni roi tystiolaeth ac o ganlyniad mae'r iaith nawr yn cael ei gydnabod o fewn y drafft hynny.
"Nid siarad gwag, ond gweld gwahaniaeth ar lawr gwlad ac ar wyneb bil."
Dywedodd bod angen cadw golwg ar fesur bydd yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol, fel y mesur cynllunio a datblygu cynnaladwy, i sicrhau bod ystyriaeth glir o'r iaith.
"Deddfwriaeth i rannau helaeth sy'n rhoi siâp ar ein bywydau ni, mae angen i ni sicrhau yng Nghymru bod y Gymraeg yn weladwy ac wedyn yn effeithio ar fywydau pobl."
Trafodaeth
Yn y seminar, bydd Ms Huws pwysleisio'r ffaith ei bod hi'n hoffi system y Gwyddelod, sydd â chyfeiriad at yr iaith ymhob darn o ddeddfwriaeth sy'n caei ei phasio yn y wlad.
Dywedodd ei bod hi am ddysgu o brofiadau pobl yn Iwerddon a'r Alban, a'i bod yn ymwybodol o'r gwaith ehangach sydd angen ei wneud yng Nghymru.
"I ryw raddau mae deddfu yn help, ond yn fwy na deddfu, mae angen i ni gael gweithgaredd cymunedol, mae angen i ni gael pwyso ar y llywodraeth i weithredu ac i sicrhau bod yr ieithoedd lleiafrifol yn weladwy ym mhobman, nid jyst mewn un mesur."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2013
- Cyhoeddwyd5 Awst 2013
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2013