Gofal Dementia: "Cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol"
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud bod cyfathrebu clir mewn iaith y mae'r claf yn ei ddeall yn gwbl ganolog i safon triniaeth dementia.
Bu Meri Huws yn annerch gweithwyr cymorth gofal iechyd mewn cynhadledd yn Wrecsam ddydd Mercher.
Mae'r Comisiynydd yn cynnal ymholiad i'r defnydd o'r Gymraeg o fewn y sector gofal sylfaenol.
Dywedodd nad "mater o ddewis neu ddymuniad yw iaith yn yr achos hwn, ond angen clinigol gwirioneddol."
Tystiolaeth ymholiad
Ychwanegodd Meri Huws fod tystiolaeth yr ymholiad yn amlygu pwysigrwydd darparu gofal dementia yn Gymraeg, a bod lle i wella'r ddarpariaeth:
"Yn yr hir dymor, fe fydd angen sicrhau mwy o siaradwyr Cymraeg yn y gwasanaeth iechyd, ond gellir rhoi cynlluniau ar waith yn awr er mwyn cwrdd ag anghenion cleifion yn well.
Mae'r rhain yn cynnwys cynllunio'r gweithlu i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg ar gael a chodi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg o fewn y sector fel bod yr angen yn cael ei ddeall a'r gofal yn cael ei gynllunio'n briodol."
Bydd adroddiad ymholiad y Comisiynydd ar ofal sylfaenol yn cael ei gyhoeddi yn ystod gwanwyn 2014.