Bryn Terfel ac Only Kids Aloud i ganu yn Ne Affrica

  • Cyhoeddwyd
Bryn TerfelFfynhonnell y llun, Neil Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Hwn fydd y tro cynta' i Bryn Terfel berfformio yn Ne Affrica

Bydd y canwr opera Bryn Terfel yn perfformio ar y cyd gyda chôr Only Kids Aloud, o Ganolfan Mileniwm Cymru, yn ystod ymweliad hanesyddol â Cape Town yn Ne Affrica'r gwanwyn nesa'.

Bydd yr artistiaid yn perfformio mewn dau gyngerdd sy'n rhan o ddigwyddiadau i nodi 20 mlynedd ers i'r drefn apartheid ddod i ben yn y wlad.

Hwn fydd y tro cynta' i'r bas-bariton o'r Bontnewydd berfformio yn Ne Affrica.

Meddai: "Bydd canu wrth ochr y 70 o leisiau yn y côr yn Ne Affrica yn brofiad anhygoel - nid yn unig i mi, ond i holl aelodau'r côr sy'n dod o bob cwr o Gymru.

"Mae gan Dde Affrica, fel Cymru, draddodiad corawl cryf a bywiog, ac mae'r traddodiad eisteddfodol - sy'n meithrin cymaint o dalent - yn fyw iawn yma hefyd.

"Bydd hwn sicr yn brofiad bythgofiadwy i'r plant, ac fel rhiant fy hun, rwy'n gwybod y bydd hefyd yn brofiad cofiadwy a balch i'w rhieni hefyd.

Ychwanegodd: "Er fy mod yn ymwelydd cyson â rhai o dai opera a neuaddau cyngerdd mwya'r byd, hwn fydd fy mherfformiad cynta' yn Ne Affrica ac am ffordd i brofi'r wlad am y tro cynta', yn ystod eu dathliadau hanesyddol. Bydd cael rhannu'r llwyfan gyda rhai o gantorion opera Cape Town ar y fath achlysur yn anhygoel."

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Opera Cape Town, Michael Williams: "Mae cwmni Opera Cape Town wedi cael perthynas glos gyda Chanolfan Mileniwm Cymru dros y blynyddoedd.

"Rydym ni wedi bod yn trafod ers misoedd sut i ddod â'r gorau o Gymru i'r byd, a mynd â'r gorau o'r byd i Gymru. Felly rydym wedi penderfynu dod â chorws Only Kids Aloud a'r gorau o Gymru i Dde Affrica."