Adroddiad: Un heddlu i Gymru?

  • Cyhoeddwyd
Police traffic carFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Gallai heddluoedd Cymru ddilyn esiampl yr Alban

Gallai Cymru ddilyn yr Alban a sefydlu un heddlu - dyna awgrym adroddiad i blismona gan gyn-bennaeth Heddlu'r Met.

Dywedodd adroddiad yr Arglwydd Stevens ar gyfer y Blaid Lafur nad oedd y strwythur presennol yn rhoi gwerth am arian.

Ymhlith y dewisiadau mae un llu i Gymru gyfan, un llu i Gymru a Lloegr neu leihau nifer yr heddluoedd o 43 i 10 drwy uno gwasanaethau.

Mae'r adroddiad hefyd wedi awgrymu diddymu'r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd er mai dim ond y llynedd y cafodd y rhai cyntaf eu hethol.

Ym mis Ebrill fe unwyd yr wyth gwasanaeth heddlu yn yr Alban i greu un corff.

Diddymu comisiynwyr

Dywedodd yr adroddiad fod system Comisiynwyr Heddlu yn "llawn methiannau" a bod ynddi "wallau systemig".

Mae wedi argymell y dylid diddymu'r system ar ei ffurf bresennol pan ddaw tymor y Comisiynwyr presennol i ben.

Yn y cyfamser, dywedodd Llywodraeth y DU, sydd â chyfrifoldeb dros blismona yng Nghymru a Lloegr, y bydden nhw'n darllen yr adroddiad ond nad oedd gofyn iddyn nhw weithredu argymhellion.

Y tro diwethaf i strwythur yr heddlu gael ei ystyried oedd gan Gomisiwn Brenhinol yn 1962.

Cydweithio

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael, mai cydweithio yn hytrach nag uno oedd y ffordd ymlaen, gan ddweud bod creu un heddlu i Gymru yn "anymarferol" ac nad oedd "yn adlewyrchu'r ymrwymiad i adeiladu plismona cymunedol".

"Mae cydweithio yn rhywbeth y mae Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i gyflawni, a hynny gyda heddluoedd eraill ac awdurdodau lleol.

"Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn fel man cychwyn ar gyfer trafodaethau pellach am ddatblygiadau mewn plismona."

Yn ôl llefarydd Llafur dros Gymru, Owen Smith AS, roedd neges bwysig yn yr adroddiad.

'Rhybuddio'

"Mae arnom angen gwasanaeth heddlu sy'n atebol i gymunedau lleol, un sydd yn ceisio atal troseddu yn hytrach nag ymateb iddo ac un sy'n weledol ar ein strydoedd.

"Mae'r Arglwydd Stevens wedi rhybuddio bod y model llwyddiannus o blismona cymunedol a ddatblygwyd gan Lafur o dan fygythiad.

"Gallwn weld hyn yng Nghymru lle rydym wedi colli dros 500 o blismyn ers yr etholiad cyffredinol diwethaf."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol