Gwella'r M4: Ffordd ratach?
- Cyhoeddwyd
Gallai tagfeydd ar yr M4 o gwmpas Casnewydd gael eu datrys am draean cost cynlluniau Llywodraeth Cymu, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan y Sefydliad Materion Cymreig.
Mae'r adroddiad yn cynnig cynllun fyddai'n costio oddeutu £380m, o'i gymharu â chost traffordd newydd, fyddai o gwmpas £936m.
Byddai'r "Llwybr Glas" yn defnyddio cyfuniad o'r A48 i'r de o Gasnewydd a'r hen ffordd Waith Dur ar ochr ddwyreiniol y ddinas, i greu ffordd ddeuol newydd.
Yr Athro Stuart Cole sy'n gyfrifol am yr adroddiad. Mae o'n arbenigwr ar drafnidiaeth sydd wedi rhoi cyngor i lywodraethau Cymru a Phrydain yn y gorffennol. Mae o'n pryderu bod y cynllun i adeiladu traffordd newydd yn dibynnu ar ffigyrau am dwf traffig yn y dyfodol, heb ystyried dylanwad system reilffordd 'metro'.
"Mae'n rhaid gofyn ydy syniad Llywodraeth Cymru am draffordd newydd yn darparu gormod o le i gerbydau, ac felly'n golygu gwario gormod. Byddai'r Llwybr Glas yn cynnig beth sydd ei angen am gost llawer yn is a chydag effaith llawer yn llai ar yr amgylchedd".
Dylanwad y system 'metro'
Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru'n darogan cynnydd o 20% mewn traffig erbyn 2035. Ond yn ôl yr Athro Cole, dydi'r syniad ddim yn ystyried y cynllun i drydanu'r rheilffordd a chyflwyno system 'metro' yn yr ardal.
Ychwanegodd, "yn dilyn adeiladu'r 'metro' yn Newcastle yn y 1990au, a'r rhwydwaith tram yn Bordeaux yn 2004, fe ostyngodd llif y traffig o 30% yn ystod amseroedd prysura'r dydd.
"Fe fyddwn i'n disgwyl gweld yr un math o effaith yng Nghasnewydd a Chaerdydd.
"Byddai'r Llwybr Glas yn datrys y broblem tagfeydd ar yr M4, ac yn bwysicach, byddai'n gallu cael ei adeiladu'n gynt na thraffordd, ac felly'n datrys y broblem yn gynt".
Effaith ar yr amgylchedd?
Dau sefydliad sy'n cefnogi'r cynlluniau yn adroddiad yr Athro Cole, yw Cyfeillion y Ddaear ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent.
Meddai James Byrne o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru, wrth raglen Eye on Wales:
"Bydd tri opsiwn y llywodraeth yn effeithio ar oddeutu naw cilomedr o safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yng Ngwent, a bydd hynny'n cyfateb i dywallt concrit dros 100, 'falle 200 hectar o dir bywyd gwyllt sy'n bwysig yn genedlaethol.
"Rydyn ni wedi ein drysu gan y tri opsiwn, yn enwedig wrth ystyried geiriau'r cyn-weinidog, Ieuan Wyn Jones yn 2009, pan ddywedodd fod angen edrych ar ffyrdd eraill - rhatach - i osgoi Twneli Brynglas."
Cynlluniau Llywodraeth Cymru
Wrth lansio ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ym mis Medi, dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gwyddoniaeth, Edwina Hart: "Mae amseroedd siwrnai annibynadwy a thagfeydd traffig, yn enwedig yn ystod yr oriau brig yn gyffredin iawn ar yr M4 o amgylch Casnewydd.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r broblem chynhwysedd a chydnerthedd ar y brif ffordd gyswllt allweddol hon, y cydnabyddir yn eang ei bod yn allweddol i economi Cymru".
Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru heddiw:
"Mae opsiynau eraill wedi eu hystyried, ond chawson nhw ddim eu trafod yn yr ymgynghoriad hwn gan na fydden nhw'n cynnig digon o newid i ddatrys y problemau tagfeydd, nac yn cynnig gwelliant hirdymor i'r problemau ar yr M4 o gwmpas Casnewydd".
Daw'r ymgynghoriad i ben ddydd Llun, Rhagfyr 16.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2013
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2013