Pleidlais o blaid tyrbinau gwynt

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Fferm wynt

Mae cynghorwyr yn Sir Gaerfyrddin wedi penderfynu cymeradwyo cais cynllunio i godi dwsin o dyrbinau hyd at 475 troedfedd (145m) o uchder mewn rhan o goedwig Brechfa yn nwyrain y sir.

Pleidleisiodd 10 o gynghorwyr o blaid y cais gyda phump yn gwrthwynebu cais cwmni RWE Npower Renewables.

Cyn y cyfarfod bu protest gan ymgyrchwyr lleol wrth i'r cynghorwyr ymweld â'r safle.

Roedd swyddogion cynllunio'r sir wedi argymell y dylid cymeradwyo'r cais.

Ond roedd tîm gwarchod adeiladau'r cyngor wedi rhybuddio y bydd y datblygiad yn cael effaith sylweddol ar saith adeilad cofrestredig yn yr ardal.

Mae pryder hefyd ymhlith trigolion lleol am sut y bydd trydan o'r tyrbinau yn cael ei gludo i rwydwaith y grid cenedlaethol.

Ym mis Medi fe wnaeth dros 100 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus yn yr ardal alw am gladdu ceblau ar y safle er mwyn lleihau effaith weledol y cynllun yn yr ardal.

Dywedodd Western Power Distribution (WPD) mai ceblau uwchben y ddaear oedd y dewis gorau ond y gallan nhw ymgynghori maes o law.