Anrhydeddau: Merched yn bennaf

  • Cyhoeddwyd
(Chwith i'r dde): Katherine Jenkins, Ruth Jones a Rosemary Butler
Disgrifiad o’r llun,

Mae Katherine Jenkins, Ruth Jones a Rosemary Butler ymhlith yr enwau ar Restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd

Cafodd nifer o Gymry amlwg ym myd gwleidyddiaeth, adloniant a busnes eu henwi ar Restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd, gan gynnwys nifer o ferched sy'n cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.

Mae'r gantores Katherine Jenkins yn derbyn OBE am ei gwaith ym myd cerddoriaeth a'i gwaith elusennol.

MBE yw gwobr Ruth Jones am ei gwasanaeth i fyd adloniant. Mae'n fwyaf enwog fel awdur y gyfres lwyddiannus Gavin and Stacey ac, yn fwy diweddar, y gyfres Stella enillodd wobr BAFTA Cymru i Ms Jones yn gynharach eleni.

Y Fonesig Rosemary Butler fydd teitl swyddogol llywydd y Cynulliad o hyn ymlaen. Cafodd ei hanrhydeddu am ei gwaith yn hybu amrywiaeth o fewn y sefydliad.

O ran y dynion, daeth OBE i gyn bennaeth BBC Cymru Geraint Talfan Davies, cadeirydd apêl Arch Noa (Ysbyty Plant Cymru) Lyndon Jones ac arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot Alan Thomas.

Cafodd Prif Weithredwr Cyngor Rhondda Cynon Taf, Keith Griffiths, CBE am ei wasanaeth i lywodraeth leol yng Nghymru ac fe gafodd Derek Jones ei urddo'n farchog.

Mr Jones yw prif was sifil Cymru sef ysgrifennydd Llywodraeth Cymru. Cafodd ei urddo'n KCB (Knight Commander of the Order of the Bath).

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rosemary Butler ei hethol yn Llywydd y Cynulliad yn 2011

Hawliau merched

Cafodd Rosemary Butler ei hethol yn Aelod Cynulliad cyntaf dros Orllewin Casnewydd yn 1999. Mae hi wedi bod yn weinidog dros addysg cyn-16, cadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad, ac fe gafodd ei hethol yn llywydd yn 2011.

Mae hi wedi sicrhau bod y rhwystrau y mae merched yn eu hwynebu ar frig yr agenda wleidyddol drwy ei hymgyrch, Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus.

Cafodd y llywydd ei henwi'n Aelod Senedd Ddatganoledig neu Gynulliad y Flwyddyn, yng ngwobrau blynyddol Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus yn Llundain.

"Rwyf wrth fy modd, ond hefyd wedi fy syfrdanu," meddai'r Fonesig Butler ddydd Llun.

"Nid fy ngwaith i yn unig yw hwn a hoffwn ddiolch i'r holl bobl yr ydw i wedi gweithio ochr yn ochr â hwy dros nifer o flynyddoedd .

"Rwy'n awyddus iawn i annog mwy o fenywod i gymryd rhan ym mywyd cyhoeddus Cymru ac rydw i wedi gweithio gyda rhai pobl anhygoel sy'n rhannu'r un angerdd.

"Mae fy nyled yn fawr i'r unigolion hynny sydd wedi gweithio'n ddiflino heb unrhyw dâl neu wobr ychwanegol.

"Mae'r anrhydedd yma hefyd i fy nheulu sydd wedi fy nghefnogi a'm hannog i dros y blynyddoedd. Ni allwn i fod wedi gwneud y gwaith hebddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Sergeant Dan Bardsley
Disgrifiad o’r llun,

Cododd Katherine Jenkins £25,000 i elusen Canser Macmillan drwy redeg Marathon Llundain eleni

Gwaith elusennol

Mae Katherine Jenkins yn derbyn OBE am ei gwasanaeth i gerddoriaeth a'i gwaith elusennol.

Ym mis Mawrth fe gododd o leiaf £25,000 i elusen Canser Macmillan drwy redeg Marathon Llundain. Roedd nyrsys yr elusen yn gofalu am ei thad a fu farw o ganser pan oedd hi'n 15 oed.

Yna fis diwethaf fe aeth i Camp Bastion yn Afghanistan i berfformio mewn dau gyngerdd arbennig i aelodau'r lluoedd arfog sy'n gwasanaethu yno.

Dywedodd ddydd Llun: "Rwy'n wylaidd iawn wrth dderbyn y fath anrhydedd.

"Mae derbyn gwobr fel hyn wedi cwta ddegawd o wasanaeth i gerddoriaeth ac elusennau yn syfrdanol a hyfryd.

"Rwy'n rhannu'r anrhydedd gyda'r cyrff elusennol yr wyf mor freintiedig o gael gweithio gyda nhw, ac yn enwedig yr aelodau dewr o'r lluoedd - y dynion a merched - sy'n mentro cymaint drosom ni i gyd yn ddyddiol."

Y rhestr lawn o Gymry

Derek Jones yw pennaeth y gwasanaeth sifil yng Nghymru ac yn arwain tîm o 5,000 sy'n gyfrifol am weithredu polisïau Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal â bod yn gyn bennaeth BBC Cymru, Geraint Talfan Davies yw cyd-sefydlydd y Sefydliad Materion Cymreig ac roedd hefyd yn gadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru, aelod o fwrdd Canolfan y Mileniwm a llywodraethwr y Coleg Cerdd a Drama Cenedlaethol.

Mae'n derbyn yr OBE am ei wasanaeth i ddiwylliant, darlledu ac elusennau.

Ymhlith eraill sy'n cael eu hanrhydeddu mae Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, Efa Gruffydd Jones (MBE) a Phrif Weithredwr Dŵr Cymru Nigel Annett (CBE).