Chwilio am siaradwyr Almaeneg i 'hybu twristiaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na ymdrech ar y gweill i ddod o hyd i siaradwyr Almaeneg er mwyn iddynt allu croesawu ymwelwyr o'r Almaen sy'n dod i Gymru.
Fel rhan o'r cynlluniau, bydd cwrs tridiau yn cael ei gynnal gan Grŵp Coleg Llandrillo Menai ym mis Chwefror.
Cruise Wales, ar ran Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru, sydd yn cynnal y prosiect.
Maen nhw'n chwilio am bobl sy'n gallu gweithio fel tywyswyr er mwyn gwneud i Almaenwyr deimlo'n fwy cartrefol trwy glywed am atyniadau'r ardal yn eu hiaith eu hunain.
Mae ymwelwyr o'r Almaen yn bwysig i economi Cymru oherwydd eu bod yn gwario mwy o arian ar gyfartaledd nag ymwelwyr Prydeinig.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae perswadio mwy ohonyn nhw i ddod i Gymru ar wyliau yn "flaenoriaeth", a'r gobaith ydy y byddan nhw'n canmol Cymru ar ôl iddyn nhw fynd adre'.
Mae nifer fawr o Almaenwyr yn ymweld â Chymru ar fordeithiau ac mae disgwyl cynnydd yn nifer y llongau sy'n ymweld â phorthladdoedd Cymru.
Yn 2013, daeth 9,000 o ymwelwyr i'r wlad ar fordeithiau. Mae disgwyl i'r ffigwr godi i 13,000 yn 2014, gyda 2,500 ohonyn nhw'n dod ar y llong Almaenig "Mein Schiff 1."
'Blaenoriaeth'
Meddai Dewi Davies, cyfarwyddwr strategol Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru:
"Mae 'na fwy o deithwyr o'r Almaen yn ymweld â Chymru ar y llongau.
"Ar gyfartaledd bydd ymwelydd o'r Almaen yn gwario £80 i £90 ar y lan, tra bod ymwelwyr o'r DU yn gwario £40 i £50.
"Felly mae'n bwysig ein bod yn denu cymaint â phosib ohonyn nhw.
"Mae hyn yn flaenoriaeth i ni ac i Lywodraeth Cymru.
"Pan mae llong yn docio, mae nifer ohonyn nhw'n mynd ar deithiau bws i wahanol leoedd.
"Mae gennyn ni lawer i gynnig a'r her ydy sicrhau bod 'na arbenigwyr i'w tywys ar y teithiau yma.
"Un o'r problemau ydy nad ydy'r tywyswyr yn siarad Almaeneg ac felly dydyn nhw ddim yn cael y profiad gorau posib.
"'Dan ni eisiau i ymwelwyr o'r Almaen fynd adref a siarad yn frwdfrydig am ein diwylliant a'n treftadaeth, ac i wneud hyn mae'n rhaid gwella eu profiadau."
'Marchnad allweddol'
Meddai Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth:
"Mae'r sector mordeithiau wedi ei nodi yn ein cynllun twristiaeth newydd fel un ffordd o sicrhau cynnydd o 10% yn y diwydiant ymwelwyr erbyn 2020.
"Mae'r Almaen hefyd wedi ei nodi fel marchnad allweddol.
"Mi fydd profiadau'r ymwelwyr yn well os yw eu taith ar y lan yn cael ei harwain gan dywyswyr sydd yn siarad Almaeneg."
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal o ddydd Llun i ddydd Mercher, Chwefror 24 i 26, gan dîm twristiaeth a marchnata Grŵp Llandrillo Menai.