Ymchwil yn profi'r cysylltiad rhwng llid â niwed i organau
- Cyhoeddwyd
Mae casgliadau gwyddonwyr sy' wedi bod yn edrych ar ddatblygu triniaethau gwell ar gyfer clefyd yr arennau dros yr 20 mlynedd diwethaf yn dweud bod camau mawr yn ein dealltwriaeth o fethiant organau.
Mewn adroddiad yn y cylchgrawn Immunity mae ymchwilwyr Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd yn dangos cysylltiad newydd rhwng niwed llid difrifol ar yr organ a methiant yr organ.
Gall yr ymchwil arwain at driniaethau newydd fydd yn amddiffyn organau rhag y math yma o niwed a'r gallu i ragweld pa gleifion fyddai'n dueddol o ddioddef o fethiant organau.
Roedd y gwyddonwyr wedi canolbwyntio ar y ceudod peritoneol i ddangos sut mae achosion o haint yn arwain at lid sy'n achosi niwed di-droi'n ôl i'r feinwe.
Dywedodd prif awdur yr ymchwil, yr Athro Simon Jones o Brifysgol Caerdydd: "Mae niwed i organau, fel y galon, ysgyfaint, yr afu a'r arennau - yn yr achos hwn, y ceudod peritoneol - yn sgil llid difrifol yn bwnc iechyd sylweddol.
'Cam mawr'
"Mae niwed i'r meinwe yn achosi i'r organ fethu â gweithio'n iawn ac, mewn rhai achosion, fethu'n llwyr, gan olygu bod yn rhaid i'r claf gael trawsblaniad neu ddialysis."
Yn ôl uwch ymchwilydd arall yr adroddiad, yr Athro Nick Topley o Ysgol Feddygaeth y Brifysgol: "Mae osgoi niwed i'r bilen beritoneol yn sgil haint yn hollbwysig i lwyddiant dialysis yn y dyfodol.
"Mae'r casgliadau yn gam mawr ymlaen gan y byddan nhw'n caniatáu i ni dargedu llwybrau penodol ar gyfer lles therapiwtig. "
"Fe fydd yn ein galluogi ni i drin cleifion am gyfnod hirach ac yn fwy effeithiol ac yn caniatáu i ni dargedu'r rheiny sydd fwyaf tebygol o ddatblygu problemau."
Roedd yr ymchwil wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, The Wellcome Trust ac Arthritis UK.