Darn £2 Kitchener: 'Anaddas'?
- Cyhoeddwyd
Mae dros 30,000 hyd yn hyn wedi arwyddo deiseb cyn faer Caerfyrddin sy'n galw am beidio â rhoi llun yr Arglwydd Kitchener ar ddarn £2.
Dywedodd Sioned-Mair Richards nad oedd yn derbyn bod cael llun o'r gweinidog rhyfel ar arian yn dderbyniol yn yr oes sydd ohoni.
Mae'r cyn Aelod Cynulliad Dai Lloyd wedi beirniadu'r Bathdy Brenhinol am y dewis.
Dywedodd llefarydd ar ran y bathdy y byddai cyfres o ddarnau arian yn cael eu cyhoeddi ac y byddai safbwyntiau eraill yn cael eu cynrychioli ar y rhai eraill.
'Taro tant'
Mae'r darn £2 yn dangos y llun enwog o Kitchener yn pwyntio'i fys gyda'r geiriau: 'Mae'ch gwlad eich angen chi' oddi tano yn Saesneg.
Nod y ddeiseb yw galw am roi llun Edith Cavell yn lle Kitchener ac mae Ms Richards, oedd yn faer ar Gaerfyrddin yn 1998-99, yn credu bod ei deiseb wedi "taro tant" gyda nifer fawr o bobl.
Nyrs oedd Cavell helpodd nifer o filwyr yng Ngwlad Belg i ddianc rhag y gelyn yn ystod y Rhyfel Mawr. Cafodd ei saethu gan yr Almaenwyr wedi iddi helpu achub dros 200 o filwyr.
"Mae'r Arglwydd Kitchener yn cynrychioli popeth rwyf wastad wedi ei gasáu am y Rhyfel Byd Cyntaf - jingoistiaeth, y gwastraff o ddynion, y meddylfryd lle oedd llewod yn cael eu harwain gan fulod," meddai Ms Richards.
"Ac yna fe feddyliais i am Edith Cavell, arwres o fy mhlentyndod, y nyrs gafodd ei dienyddio am roi cysur i filwyr oedd wedi eu hanafu, heb boeni o ba wlad roedden nhw'n dod."
Hedd Wyn?
Mae Dai Lloyd, ymgeisydd Plaid Cymru yn Abertawe yn Etholiad Cynulliad 2016, yn cytuno gyda Ms Richards.
"Dyma genadwri sy'n crynhoi i'r dim y meddylfryd cibddall a anfonodd filiynau i'w beddi yn y ffosydd, gan gynnwys degau o filoedd o Gymru," meddai.
"Os yw'r Bathdy Brenhinol am nodi digwyddiadau 1914-18, a hwythau wedi'u lleoli yn Llantrisant, pam lai dwyn i gof bywyd Hedd Wyn, y bardd o Gymro a syrthiodd yn Passchendaele ac a enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw yn 1917?"
Mae'r Bathdy Brenhinol wedi dweud eu bod nhw wastad wedi dylunio darnau arian sydd yn cofnodi digwyddiadau hanesyddol.
Dywedodd llefarydd: "Yn 2014 bydd Prydain yn cofio canrif ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a bydd y Bathdy Brenhinol yn coffáu'r digwyddiad drwy fynd ar daith emosiynol o hynny i'r cadoediad dros gyfnod o bum mlynedd.
"Mae'r rhaglen yn dechrau gyda darn £2 sy'n dangos llun o Kitchener yn galw pobl i fynd i ymladd, llun eiconig fydd pobl yn ei adnabod yn syth, wedi ei gerflunio gan John Bergdahl.
"Cafodd y dyluniad hwn ei ddewis i gofnodi dechrau'r rhyfel gan ei fod yn cael ei gysylltu gyda hynny mewn ffordd mor gref gan lawer o'r boblogaeth.
"Mae'n bwysig i bobl ddeall na fydd y darn hwn o arian yn sefyll ar ben ei hun ond yn rhan o gyfres hirach fydd yn coffáu'r Rhyfel Byd Cyntaf."