Iawndal yn 'rhyddhad' i Mohammad Asghar AC

  • Cyhoeddwyd
Mohammad Asghar
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y barnwr bod yr achos wedi achosi "pryder a straen" i Mr Asghar a Mr Mujahid

Mae aelod cynulliad Ceidwadol a dyn o Gasnewydd wedi ennill iawndal o £135,000 yr un gan bapur newydd iaith Urdu yn ogystal â dau o'i staff.

Roedd y papur newydd, Nawaijang, wedi gwneud nifer o honiadau difrïol yn erbyn Mohammad Asghar ac Abdul Rahman Mujahid.

Dywedodd y dynion eu bod wedi eu diarddel o'r gymuned Fwslemaidd gan rai aelodau, oherwydd yr honiadau.

Dywedodd Mr Asghar ei fod yn "rhyddhad mawr" dod â'r achos i ben.

Ym mis Ionawr 2012, fe wnaeth y papur newydd nifer o honiadau di-sail am ymddygiad Mr Asghar, sy'n aelod cynulliad dros De Ddwyrain Cymru, a Mr Mujahid, sy'n ddyn busnes.

Yn ei ddyfarniad, dywedodd y barnwr Milwyn Jarman QC: "Rydw i'n fodlon bod y ddau wedi eu bychanu o fewn cymunedau Mwslemaidd a mosgiau, sy'n rhan bwysig iawn ym mywydau'r ddau."

'Pryder a straen'

Dywedodd y barnwr bod y ddau wedi disgrifio yn fanwl eu profiadau o dderbyn nifer fawr o gwestiynau gan etholwyr a chyd-weithwyr yn achos Mr Asghar, a gan aelodau o'r gymuned grefyddol yn achos Mr Mujahid.

"Roedd rhaid iddyn nhw esbonio, ac roedd teimladau o embaras a chywilydd wrth wneud hynny.

"Mae agwedd rhai aelodau o'r cymunedau hyn tuag at y ddau yma wedi newid, ac mae rhai wedi penderfynu peidio â siarad gyda nhw bellach.

"Mae hyn wedi achosi pryder a straen."

Bydd rhaid i Nawaijang UK Limited, Asif Saleem a'i wraig Nadia Tuffail dalu £45,000 yr un, i'r ddau ddyn.

Dywedodd Mr Asghar ei fod "yn falch bod yr holl beth drosodd".

Gan ddiolch i'w deulu a'i ffrindiau, dywedodd bod y dyfarniad yn "rhyddhad mawr".

Ar wefan Twitter, ychwanegodd: "I unrhyw un sydd wedi cwestiynu fy ngonestrwydd - mae'r system gyfiawnder Prydeinig wedi rhoi ei benderfyniad."