Pwll nofio Harlech: 'Cannoedd' mewn cyfarfod
- Cyhoeddwyd
Mae rhyw 200 o bobl wedi mynychu cyfarfod yn Harlech er mwyn trafod dyfodol y pwll nofio.
Roedd y cyfarfod wedi ei drefnu oherwydd fod y cyfarwyddwyr yn pryderu bod posib bydd y pwll yn gorfod cau os na fyddan nhw'n derbyn mwy o gymorth gan y gymuned.
Chwilio maen nhw am fwy o gyfarwyddwyr, ac yn apelio ar bobl leol i roi cymorth iddyn nhw er mwyn gallu cadw'r pwll ar agor.
Dywedodd Dylan Hughes, sy'n un o'r tri cyfarwyddwr presennol, fod rhai wedi dweud yn ystod y cyfarfod eu bod â diddordeb ymuno â'r bwrdd cyfarwyddo.
'Teulu bach hapus'
'Nôl yn 2010 fe wnaeth y cwmni cymunedol Hamdden Harlech ac Ardudwy gymryd cyfrifoldeb am redeg y ganolfan.
Maen nhw'n cyflogi pum aelod o staff llawn amser, pedwar rhan amser ac wyth gweithiwr achlysurol.
Mae nifer o gyfleusterau ar gael yn y ganolfan hamdden gan gynnwys wal ddringo, caffi, a dosbarthiadau.
Un sy'n mynychu dosbarthiadau yw Ceri Jones - mae hi a nifer o ferched eraill yn mynd i ddosbarth Aqua Fit bob wythnos.
"'Da chi'n gwneud gwahanol symudiadau yn y dŵr, cicio'r traed, codi'ch breichia' fyny a lot o bethe, 'dw i wrth fy modd yn dod,"meddai.
"'Da ni'n deulu bach hapus iawn yma."
Yn ôl Ms Jones mae oed cyfartalog y dosbarth yn tua 70.
'Angen cefnogaeth'
Mae'r ganolfan yn wynebu dyled o £40,000 i gwmni trydan ac yn ôl Mr Hughes mae perygl y gallai'r ganolfan gau os nad ydyn nhw'n llwyddo i gynyddu eu hincwm.
"Rydan ni yn siarad efo'r cwmni ac yn trio symud hynna 'mlaen ond mae o 'chydig bach yn bryderus yn de," meddai Mr Hughes cyn y cyfarfod.
"'Da ni'n poeni 'chydig bach am hynny. Dim ond efo tri ohonan ni 'dw i'm yn meddwl allwn ni 'neud penderfyniadau yn iawn i symud y lle 'ma 'mlaen felly mae angen mwy na tri ohonan ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2014