Tom Jones yn dod i Ogledd Cymru
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Syr Tom Jones, y seren o Bontypridd, yn perfformio yn Sioe 'Access All Eirias' ym Mae Colwyn yr haf hwn.
Dyma fydd sioe gyntaf Tom yn yr awyr agored yng Ngogledd Cymru, a fo fydd y prif berfformiwr ar ddiwedd noson y cyngerdd yn Stadiwm Eirias, Bae Colwyn ar y 25 o Orffennaf.
Fe ddechreuodd 'Access All Eirias' yn 2012 gyda pherfformiadau gan Olly Murs, Pixie Lott ac Only Boys Aloud.
Y llynedd, roedd Little Mix, Conor Maynard, Rhydian a Sophie Evans yn diddanu'r gynulleidfa yn yr ŵyl dros ddau ddiwrnod.
"Dod nôl i Gymru wastad yn bleser"
Mae Tom wedi cael gyrfa lwyddiannus dros 50 mlynedd, gyda chaneuon poblogaidd fel It's Not Unusual, Delilah, Kiss a Sex Bomb.
Mae'r canwr 73 oed sy'n cael ei adnabod fel 'Y Llais' i genhedlaeth o gefnogwyr, yn ôl ar y teledu ar hyn o bryd fel beirniad ar rhaglen dalent o'r un enw, 'The Voice'.
Dywedodd trefnwyr yr ŵyl eu bod nhw'n teimlo ei bod hi'n dipyn o gamp i fod wedi gallu denu Tom i Fae Colwyn, canwr sydd wedi arfer â chanu yn Las Vegas ac mewn llefydd enwog fel Madison Square Garden a'r Hollywood Bowl, ac "fe fydd ei ymddangosiad ym Mae Colwyn yn sicr o roi'r dre ar y map."
Cafodd Tom ei eni yn Nhrefforest. Mae'n edrych ymlaen at y cyngerdd ac yn addo noson gofiadwy i'w ffans Cymraeg: "Credwch neu beidio, ond dyma fydd fy sioe fawr awyr agored gyntaf yng Ngogledd Cymru."
"Mae dod nôl i Gymru i berfformio wastad yn bleser, ac yn lleoliad ffantastic Stadiwm Eirias, fyddwn ni'n sicr o roi tipyn o sioe."
"Cyfle na ddylid ei golli"
Meddai prif weithredwr Cyngor Conwy, Iwan Davies, mae'n gret i weld 'Access All Eirias' yn dychwelyd am ei thrydedd blwyddyn: "Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Tom Jones i Fae Colwyn. Mae llwyddo i ddenu Tom yma i'r ardal yn dipyn o beth ac yn gyfle na ddylid ei golli.
"Mae'n cynnig cyfle i bobl y gogledd weld yr artistiaid gorau ar eu haelwyd, yn ogystal â chynnig cyfle sylweddol i fusnesau yn yr ardal."