O'r archif: Huw John Hughes yn rhoi gwers ar y pili pala
Y diweddar Huw John Hughes sy'n egluro cylch bywyd y pili pala i blant Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cenedlaethau o blant wedi mwynhau tripiau ysgol i ganolfan Pili Palas ar Ynys Môn, ac mae gan rai lwcus atgofion melys o gael eu tywys o amgych y gloÿnnod byw, y gwyfynod a'r trychfilod gan y diweddar Huw John Hughes.
Yn dilyn y newyddion am farwolaeth un o sylfaenwyr y ganolfan, gwyliwch Huw yn rhoi gwers ar gylch bywyd y pili pala i blant Cymru ar raglen Hwnt ac Yma yn 1986.
Roedd ganddo ddiddordeb mewn pryfed a gloÿnnod byw ers ei fod yn blentyn ac fe wireddodd freuddwyd oes drwy sefydlu prif ganolfan gloÿnnod byw Cymru.
A hithau'n wyliau haf a phlant angen eu hysbrydoli, beth am ddilyn cyngor Huw "ar sut i warchod y creadur lliwgar a phrydferth yma".
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.