O'r archif: Eisteddfodau Wrecsam y blynyddoedd a fu
- Cyhoeddwyd
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ôl yn Wrecsam am y seithfed tro.
Rydyn ni wedi bod yn tyrchu yn yr archif am atgofion o ymweliadau'r Brifwyl â'r ddinas dros y blynyddoedd.
1876

Hon oedd Eisteddfod y Gadair Ddu cyn Eisteddfod Penbedw yn 1917, pan y cafodd ei gyhoeddi fod Hedd Wyn wedi ennill y Gadair, ond ei fod eisoes wedi marw ar faes y gad.
Enillydd Cadair Eisteddfod Wrecsam 1876 oedd Thomas Jones o Langollen, neu Taliesin o Eifion, fu farw cyn y seremoni.
Cafodd y gadair ei gorchuddio gyda defnydd du, ac roedd y dyrfa i gyd dan deimlad yn ystod y seremoni.

Poster goffa am y digwyddiad. Mae sôn i Thomas farw y noson yr anfonodd ei awdl i gael ei beirniadu, ac mae'r poster yn honni mai ei eiriau olaf oedd 'A yw'r awdl wedi ei danfon yn saff?'
Huw Williams yn adrodd hanes seremoni'r Gadair Ddu o Eisteddfod 1876, ar raglen Heddiw o Awst 1977
1888

Medal a gafodd ei rhoi yn yr Eisteddfod yn 1888

Roedd diwrnod cyntaf yr Eisteddfod wedi denu'r dyrfa fwyaf erioed, yn ôl papur newydd Y Drych ar 20 Medi 1888 - a hynny oherwydd ymweliad cyn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, William Ewart Gladstone, a dreuliodd ran helaeth o'i fywyd yn byw yng Nghastell Newydd Penarlâg
- Cyhoeddwyd2 Mehefin

Tystysgrif i nodi fod Richard Owen yn dod yn aelod o'r Orsedd, wedi ei lofnodi gan yr Archdderwydd, Hwfa Môn
1912

Seremoni gyhoeddi'r Eisteddfod yn 1911. Yr Archdderwydd oedd Dyfed (Evan Rees)

Tybed beth oedd yn y rhestr testunau yn Eisteddfod 1912? Diddorol mai yn Saesneg oedd y llyfryn...

Tarfodd swffragetiaid ar araith gan y Canghellor David Lloyd George yn y Pafiliwn, o flaen torf o 4,000. Cafodd wyth o ferched ac un dyn eu hel oddi yno, ac fe ymosododd y dyrfa ar y merched oedd yn protestio.
Meddai'r hanesydd, Elin Tomos: "I nifer, roedd Lloyd George yn drysor cenedlaethol ac yn eu golwg hwy yn llawer mwy na gwleidydd yn unig. I'w gefnogwyr, roedd ymosodiad ar Lloyd George yn ymosodiad ar Gymreictod - a hynny yn yr Eisteddfod o bob man!"

Grŵp o 'feirdd swyddogol' yr Eisteddfod. Enillydd y Gadair a'r Goron yn yr Eisteddfod honno oedd T.H. Parry-Williams. Gwnaeth 'y dwbl' eto ym Mangor yn 1915
1933

Gosod meini'r Orsedd yn 1932 ar gyfer Eisteddfod y flwyddyn wedyn

Seremoni gyhoeddi Eisteddfod 1933 - yr Archdderwydd oedd Gwili (John Jenkins)

Alun Davies, 12 oed, oedd un o'r macwyiaid yn seremonïau'r Orsedd yn 1933. Yn y llun hefyd mae'r cyn Brif Weinidog, David Lloyd George, a oedd wedi dod i ymweld â'r Maes

Cafodd y Gadair ei rhoi gan Dr John Robert Jones, yn wreiddiol o Lanuwchllyn, ond oedd erbyn hynny yn byw yn Shanghai. Ei syniad o oedd i ofyn i grefftwyr yn T'ou-se-we ger Shanghai ei chreu

Y bocs y daeth y Gadair draw i Gymru ynddi a llun o rai o'r crefftwyr a dreuliodd dros flwyddyn yn ei chreu. Enillydd y Gadair oedd Trefin (Edgar Phillips) am ei awdl, Harlech
1977

Yr heddwas Tecwyn Blainey yn rhoi croeso cynnes i Eisteddfotwyr 1977

Nid T.H. Parry-Williams oedd yr unig fardd i ennill Coron a Chadair mewn Eisteddfod yn Wrecsam - gwnaeth Donald Evans yr un gamp yn 1977. Eto, fel T.H., aeth Donald ymlaen i wneud y 'dwbl dwbl' gan ennill y ddwy wobr eto yn Nyffryn Lliw, 1980

Donald Evans yn cario'i Goron o amgylch y Maes ar ôl ei hennill am ei bryddest, Hil

Record Cymanfa Ganu Eisteddfod 1977. Ar nos Sul ola'r Brifwyl, daeth cynulleidfa o 5,000 at ei gilydd i ganu emynau 'o waith beirdd a chyfansoddwyr Bro Maelor, ardal a gyfrannodd yn helaeth i ganiadaeth y Cysegr.'
2011

Aled Roberts (chwith) yn rhan o osgordd yr Orsedd, fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Eisteddfod 2011. Bu farw Aled yn 2022, a'i wraig, Llinos Roberts, yw Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2025

Ddydd Gwener Eisteddfod 2011, roedd rheolwr Cymru, y diweddar Gary Speed, ar y Maes - a hynny am y tro cyntaf erioed - er mwyn cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer gêm gyfeillgar yn erbyn Awstralia yng Nghaerdydd.
Meddai yn ystod y gynhadledd i'r wasg: "Mae'n wych yma. Fel arfer dwi yng Nghaerdydd a ddim yn cael lot o gyfle i ddod i'r gogledd, mae'n wych.
"Dwi'n gweithio'n galed iawn adeg yma'r flwyddyn a heb fod wedi cael amser i allu ymweld o'r blaen.
"Ond mae'n agoriad llygad ac mae 'na lawer iawn o bobl yma. Dwi'n gobeithio bod yma eto'r flwyddyn nesaf."

Bynting yn cyhwfan o flaen yr Hen Lyfrgell yng nghanol dinas Wrecsam, i nodi fod y Brifwyl yno yn 2011

Manon Rhys oedd enillydd Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod 2011, ac fe gafodd ei gŵr, Jim Parc Nest, y fraint o'i gwobrwyo, yn ei rôl fel Archdderwydd.
Cofiodd Jim: "O'n i ar Fwrdd yr Orsedd, ac mae un o'r cyfarfodydd yn digwydd fis Ebrill. Hywel Wyn Edwards oedd y trefnydd, a phwy welais i yn y coridor, yn hollol ddamweiniol, oedd un o feirniaid y Fedal Ryddiaith, Hazel Walford Davies, yn rhoi ffolder drwchus iddo.
"A 'nabyddais i'r lliw, ffolder melyn, ac o'n i'n gwybod mai nofel Manon oedd hi. 'Wedais i ddim wrth Manon, 'wedais i ddim wrth neb – gadwes e i fy hunan.
"O'dd e'n brofiad arbennig."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2020