Ateb y Galw: Gwenno Gwilym

- Cyhoeddwyd
Yr awdures Gwenno Gwilym o Ddyffryn Ogwen sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.
Enillodd nofel Gwenno, V + Fo, wobr Barn y Bobl ynghyd â'r wobr ffuglen yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn ar 17 Gorffennaf.
Dyma ei hatebion i gwestiynau busneslyd Cymru Fyw...
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Fy hoff le i yn y byd i gyd yw ein tŷ ni. Dwi'n ymlacio'r eiliad dwi'n cerdded trwy'r drws.
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Anodd iawn dewis dim ond un ond dwi am ddweud lansiad fy nofel, V + Fo, yn Neuadd Ogwen nôl ym mis Tachwedd. Bron iawn pawb dwi'n garu mewn un 'stafell, miwsig da a chyfle i ddathlu'r ffaith fy mod wedi gwireddu fy mreuddwyd o gyhoeddi llyfr.

Gwenno yn cael ei holi gan yr awdures Casia Wiliam ar noson y lansiad
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Siaradus. Trefnus. Boring.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Dwi'n gwenu wrth feddwl am ein ci defaid hyfryd ni, Jasper, a fu farw 'chydig flynyddoedd yn ôl. Roedd o'n gi mor arbennig, bron fel person, ac roedd pob dim yn antur hefo Jasper.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Dwi 'di dweud a gwneud gymaint o bethau embarasing a dwi'm rili isio rhestru nhw'n fama felly – pass plîs.
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Dwi'n crio'n hawdd. Roeddwn i bron bron â chrio yn seremoni Llyfr y Flwyddyn wythnos diwethaf. Nes i jyst about gallu dweud diolch cyn gadael y llwyfan reit handi!
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Dwi'n torri ar draws lot. Dwi'n wirioneddol trio peidio.

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Mi fyswn i'n gallu 'sgwennu traethawd yn ateb y cwestiwn yma a dwi wedi diflasu aml i berson sydd wedi gofyn hyn i mi. Mae gymaint o ffactorau i'w hystyried wrth ateb cwestiwn mor siriys. Ond er mwyn ateb yn fyr, mi ddweda i About a Boy gan fod y llyfr, y ffilm a'r albwm yn wych.
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Jyst fy mhartner, Joe, achos fo 'di'r boi mwya' cŵl dwi 'rioed 'di gyfarfod.
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Eto, dwi ddim am rannu fy nghyfrinachau'n fama – pass plîs!
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Codi'n gynnar i ddarllen, cerdded fyny Moel Faban a nofio yn yr afon gyda fy nheulu, chicken in a basket o Blue Sky ym Mangor i ginio ac wedyn cerdded ar hyd Lon Las Ogwen i ddawnsio'n Neuadd Ogwen gyda fy ffrindiau. Diwrnod perffaith, gyd o fewn 'chydig filltiroedd i adref.
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Unrhyw lun o fy mhlant yn yr awyr agored. Dwi'n teimlo mor lwcus yn cael byw mewn lle mor arbennig.

Mae Gwenno wrth ei bodd yn trreulio amser gyda'i theulu yn yr awyr agored
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Mi fyswn i'n licio bod yn rhywun hollol chilled am y diwrnod. Rhywun sy'n poeni dim am y dyfodol. Fedrai'm hyd yn oed dychmygu'r peth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf