Adnewyddu tai i helpu rhieni sydd â babanod mewn gofal dwys

Fe dreuliodd Mari, merch Bethan a Carwyn dri mis mewn gofal dwys
- Cyhoeddwyd
Bydd rhieni babanod sy'n wynebu gofal dwys mewn ysbyty yn Abertawe yn gallu defnyddio cartrefi wedi'u hadnewyddu i aros yn agos at eu plant mewn cyfnod anodd.
Mae tai yn Cwtsh Clos, ar safle Ysbyty Singleton, wedi cael eu huwchraddio i gynnwys dodrefn newydd, teledu clyfar a gerddi i gynnig tawelwch i deuluoedd.
Yn ôl un fam o Gaerfyrddin a dreuliodd gyfnod yno tra bod ei merch mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, mae'n gysur i deuluoedd sy'n wynebu "profiad anoddaf eu bywyd".
Mae'r ymgyrch i godi arian gan apêl Cwtsh Clos elusen Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi cael ei chefnogi gan y cerddor Mal Pope ar ôl i'w ŵyr, Gulliver, gael gofal yn yr uned i fabanod newyddanedig cyn iddo farw.

Mae'r cartrefi sy'n agos at uned newyddenedigol yr ysbyty wedi cael celfi newydd ac mae'r gerddi wedi eu hadnewyddu hefyd
Er bod y gwaith adnewyddu'n newyddion da i'r ardal, mae elusen Bliss wedi codi pryderon am y sefyllfa ar draws Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi rhoi cyllid i'r elusen i gefnogi eu gwaith.
'Meddwl y byd i ni'
Defnyddiodd Bethan Wyn un o'r tai rai blynyddoedd yn ôl pan dreuliodd ei merch Mari, sy'n dair oed, gyfnod yn uned gofal dwys i fabanod yr ysbyty.
Ar ôl i Mari gael ei geni yn gynnar ac mewn cyflwr difrifol, fe dreuliodd y teulu gyfnod ym Mryste, cyn dychwelyd yn nes at adref i Abertawe.
"Roedd cael y to hwnnw uwchben ein pennau yn ystod cyfnod anoddaf ein bywydau yn meddwl y byd i ni," dywedodd.
"O'n ni dafliad carreg o'r ysbyty. O'dd e'n meddwl bod ni'n gallu bod gyda hi drwy'r dydd a rhan fwya'r nos hefyd."
Dywedodd ei bod hi a'i gŵr, Carwyn, yn "ddiolchgar" am yr ymdrechion codi arian – gyda nhw hefyd yn rhan o'r ymgyrch i gyfrannu miloedd o bunnoedd.

Er y newyddion da mae elusen Bliss yn dweud nad ydy safon llety unedau eraill i fabanod newyddanedig yng Nghymru yn ddigon da
Ddydd Mawrth, mewn lansiad arbennig yn dilyn blwyddyn o godi arian, roedd cyfle i deuluoedd weld y tai.
Er yn newyddion da i'r ardal, mae elusen Bliss, sy'n cefnogi teuluoedd babanod mewn gofal newyddenedigol, wedi codi pryderon am y sefyllfa ar draws Cymru.
"Er bod hyn yn newyddion gwych i deuluoedd y bydd eu babanod yn cael gofal yn Singleton, mae'n bwysig iawn i ni gofio bod y llety sy'n cael ei gynnig mewn unedau newyddenedigol ledled Cymru, yn gyffredinol, ymhell islaw lefel yr angen," dywedodd Josie Anderson o'r elusen.
"Dangosodd ymchwil Bliss y llynedd nad yw 85% o fabanod yn gallu cael o leiaf un rhiant yn aros mewn ystafell dros nos pan eu bod nhw ar uned newyddenedigol.
"Mae'n bryder mawr" meddai.
'Pwysig cael yr opsiwn'
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod "yn bwysig bod gan rieni'r opsiwn o allu aros mor agos â phosibl at eu babanod os ydyn nhw'n derbyn gofal newyddenedigol".
"Rydym wedi dyfarnu cyllid i Bliss i gefnogi trawsnewid newyddenedigol yng Nghymru.
"Bydd yn eu galluogi i gyflwyno rhaglen sy'n cyfuno cefnogaeth uniongyrchol i deuluoedd, gweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac ymchwil newydd i wella canlyniadau newyddenedigol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2021